Skip page header and navigation

Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant Lefel 3 (Cwrs Coleg)

  • Ar-Lein
16 Wythnos. Dydd Mawrth 5:30pm-7:30 pm, Chwefror 2025

Mae’r dyfarniad hwn ar gyfer y rheiny dydd â diddordeb mewn addysgu ac a fyddai’n elwa ar gwrs rhagarweiniol.

Sylwch nad yw’n cymhwyso’r dysgwr i addysgu ond mae yn gweithredu fel rhagarweiniad i’r cymhwyster PCET/PGCE felly mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi neu ar gyfer y rheiny sydd yn newydd i addysgu.

Gellir defnyddio’r cwrs yn ogystal fel math o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd gan ymgeiswyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus ddealltwriaeth sylfaenol o rolau a chyfrifoldebau athro/hyfforddwr mewn perthynas â deddfwriaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynwysoldeb a bodloni anghenion dysgwyr. Byddan nhw’n gallu cynllunio a chyflwyno sesiynau, gan ddefnyddio dulliau cynhwysol, adnoddau a dulliau addysgu priodol. Yn ogystal byddan nhw’n gallu adnabod nodweddion asesu ac adborth effeithiol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Pellter
Hyd y cwrs:
16 Wythnos. Dydd Mawrth 5:30pm-7:30 pm, Chwefror 2025

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Cyflwyniad Ar-lein.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Deall Rolau, Cyfrifoldebau a Pherthnasoedd mewn Addysg a Hyfforddiant
  • Deall a defnyddio Dulliau Addysgu a Dysgu Cynhwysol mewn Addysg a Hyfforddiant
  • Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu

Bydd y rhain yn rhoi dealltwriaeth i chi o elfennau hanfodol gan gynnwys:

  • Rolau a chyfrifoldebau
  • Strategaethau addysgu a dysgu 
  • Creu amgylchedd cefnogol 
  • Perthnasoedd rhwng athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Creu amgylchedd cynhwysol 
  • Strategaethau addysgu a dysgu cynhwysol 
  • Cyflwyno sesiynau dysgu ac addysgu effeithiol
  • Cynnal amgylchedd dysgu diogel a chefnogol
  • Cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau llythrennedd, iaith, rhifedd a TGCh
  • Gwerthuso eich ymarfer eich hun 
  • Mathau a dulliau asesu
  • Egwyddorion a gofynion asesu
  • Sicrhau ansawdd

Mae’r dyfarniad hwn yn rhoi cipolwg a chyflwyniad i ddod yn athro; argymhellir symud ymlaen i gwrs PCET/PGCE yng Ngholeg Sir Gâr/Coleg Ceredigion.

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion

  • Asesiad parhaus drwy gydol y cwrs.
  • Portffolio o dystiolaeth.
  • Arholiad ymarferol.

Does dim gofyniad lleiaf o ran ymarfer addysgu, ond mae’n ofynnol cyflwyno sesiwn microaddysgu gyda’ch cymheiriaid. 

Rhaid i ddysgwyr fod yn 19 oed o leiaf i gyflawni’r cymhwyster hwn.

Does dim gofyniad mewn perthynas ag isafswm craidd y cymhwyster Dyfarniad. Fodd bynnag, mae gofyniad i gynnal asesiad cychwynnol o sgiliau personol athro dan hyfforddiant mewn Saesneg, mathemateg a TGCh.

Band F