
TGAU mewn Iaith Saesneg
- Ar-Lein
- Campws Aberystwyth
- Campws Y Graig
Byddwch yn datblygu eich gallu i ddefnyddio Saesneg fel dinesydd gweithredol a gwybodus a byddwch yn gallu siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu’n rhugl, yn briodol, yn effeithiol ac yn feirniadol - ar gyfer ystod eang o ddibenion personol, swyddogaethol a chymdeithasol.
Cewch eich ysbrydoli, eich cyffroi a’ch herio trwy ddilyn cwrs astudio gwerth chweil a disgwylir i chi ymateb i ystod eang o destunau ysgrifenedig, gan gynnwys testunau heriol a deinamig.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gallwch astudio TGAU Saesneg ar y cyd â’ch prif raglen astudio, neu gellir ei astudio’n rhan-amser fel dosbarth nos.
Bydd y cwrs yn rhoi’r hyder i chi allu cyfathrebu’n effeithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Bydd y cwrs TGAU Saesneg iaith hefyd yn caniatáu i chi ddatblygu ymhellach eich dealltwriaeth yn Saesneg ac yn caniatáu i chi drosglwyddo’r sgiliau rydych chi wedi’u datblygu, ar draws eich rhaglen ddysgu gyfan.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau llafar a darllen ac ysgrifennu trwy ddod i gysylltiad ag ystod o dasgau.
Byddwch yn dysgu sut i gyflwyno gwybodaeth a dewis a threfnu gwybodaeth a syniadau yn effeithiol ac yn berswadiol, ymateb, adfyfyrio a dadansoddi ystod eang o destunau ysgrifenedig ynghyd â chynhyrchu testunau ysgrifenedig clir a chydlynol.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion a chyflogwyr bellach yn mynnu bod dysgwyr a gweithwyr yn dangos dealltwriaeth dda o lythrennedd a bydd cael TGAU mewn Saesneg yn caniatáu i chi ehangu eich opsiynau gyrfa ac astudio.
Bydd cwblhau’r cwrs TGAU Saesneg yn eich paratoi i wneud penderfyniadau gwybodus am gyfleoedd dysgu pellach a dewisiadau gyrfa. Bydd yn rhoi pwyslais ar yr agweddau hynny ar Saesneg sy’n ofynnol ar gyfer symud ymlaen i astudio pellach neu lwybrau cyflogaeth.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys dwy uned a asesir yn allanol sydd wedi’u pwysoli’n gyfartal, ac un uned a asesir yn fewnol. Mae’r ddwy uned a asesir yn allanol yn profi sgiliau darllen ac ysgrifennu (gwerth 80%), tra bod yr uned a asesir yn fewnol yn profi sgiliau llafar (gwerth 20%).
Efallai yr eir i gost fach iawn, fel cost cyfarpar ysgrifennu (beiros a phapur).
Mae’n ofynnol i ddysgwyr dan 19 oed dalu ffi weinyddol o £45 cyn cofrestru.
Gan fod y cwrs yn cael ei addysgu ar-lein, mae mynediad i gyfrifiadur personol, gliniadur neu lechen a chysylltiad rhyngrwyd yn hanfodol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr arall dalu ffi’r cwrs TGAU o £122 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr dan 19 oed dalu ffi weinyddol o £45 cyn cofrestru.
Gan fod y cwrs yn cael ei addysgu ar-lein, mae mynediad i gyfrifiadur personol, gliniadur neu lechen a chysylltiad rhyngrwyd yn hanfodol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr arall dalu ffi’r cwrs TGAU o £163 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.