Skip page header and navigation

TGAU Gwyddoniaeth

  • Ar-Lein
  • Campws Aberystwyth
  • Campws Y Graig
1 Blwyddyn

Mae’r cwrs hwn yn rhoi trosolwg eang o wyddoniaeth a rôl y gymuned wyddonol yn ein cymdeithas. Mae myfyrwyr yn dysgu am sut y bydd gwyddonwyr yn dilysu eu gwybodaeth am y byd, ac yn ymchwilio i’r modd y mae gwyddoniaeth yn effeithio ar gymdeithas.

Mae’n rhan hanfodol o addysg ar lefel 2 ac mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer pob maes addysg bellach. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys Rhaglen Astudio orfodol y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth yng Nghymru a Lloegr. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
1 Blwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer CBAC Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Sengl) gan roi un TGAU mewn Gwyddoniaeth.

Mae myfyrwyr yn astudio meysydd Bioleg, Cemeg a Ffiseg drwy wahanol bynciau, megis cynhyrchu a defnyddio trydan, cylchedau trydanol, y gyfundrefn heulol a’r bydysawd, cynhyrchu cyfansoddion mewn labordy, cylchynu maetholion yn yr amgylchedd, brechu, technegau delweddu meddygol, ymarfer a ffitrwydd, ac adweithiau cemegol/niwclear. Hefyd mae yna bwyslais ar sgiliau ymarferol drwy gynllunio a chyflawni ymchwiliadau, dadansoddi data ac asesu iechyd a diogelwch.

Caiff y cwrs ei addysgu yn Saesneg. Mae cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg. Mae rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg.

Derbynnir Gwyddoniaeth Gymhwysol CBAC (Dyfarniad Sengl) ar gyfer cyrsiau Mynediad i AU a chyrsiau Safon Uwch (yn dibynnu ar y radd a’r pwnc y gwneir cais amdano).

Mewn addysg uwch, derbynnir y cwrs ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a’r rhan fwyaf o gyrsiau gradd eraill (ochr yn ochr â chymwysterau eraill).

Mae 4 asesiad ffurfiol yn ystod y flwyddyn (bydd y dyddiadau hyn yn cael eu gosod ond nid yw dyddiadau ac amserau ar gael tan dymor yr Hydref). Mae’r holl asesiadau yn rhai personol, wyneb yn wyneb, ar gampws Aberystwyth.

  • Uned 1: Asesiad ysgrifenedig (1.5 awr) ym mis Mehefin, gwerth 40% o’r marc terfynol.
  • Uned 2:Asesiad ysgrifenedig (1.5 awr) ym mis Mai, gwerth 30% o’r marc terfynol.
  • Uned 3: Asesiad seiliedig ar dasg (4 awr), ym mis Tachwedd/Rhagfyr yn ystod dwy o’r gwersi nos Iau, gwerth 20% o’r marc terfynol.
  • Uned 4:  Asesiad ymarferol (2 awr), ym mis Ionawr/Chwefror yn ystod un o’r gwersi nos Iau, gwerth 10% o’r marc terfynol.

Mae unedau 1, 2 a 3 yn cynnwys haenau (uwch a sylfaenol); Ni cheir haenau yn Uned 4. Gall myfyrwyr ddewis eu haen asesu, ond dylid cymryd pob asesiad yn yr un haen. Mae’r haen uwch yn cynnwys marciau o A* – D; mae’r haen sylfaenol yn cynnwys marciau o C – G, ac A* yw’r marc uchaf posibl.

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ond mae cefndir mewn gwyddoniaeth ysgol uwchradd yn ddymunol.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr dan 19 oed, neu sy’n rhan o gwrs llawn amser yn y coleg, dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr arall dalu ffi’r cwrs TGAU o £163 cyn cofrestru.

Gan fod yr holl wersi’n cael eu haddysgu ar-lein, mae mynediad i gyfrifiadur personol, gliniadur neu lechen a chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy yn hanfodol.

Awgrymir bod gennych fynediad i ddeunyddiau cymryd nodiadau a chyfrifiannell ar gyfer amserau gwersi. Darperir deunyddiau ysgrifennu a chyfrifianellau ar gyfer asesiadau.