Skip page header and navigation

TGAU Mathemateg

  • Ar-Lein
  • Campws Aberystwyth
  • Campws Aberteifi
  • Campws Y Graig
1 Blwyddyn rhan amser

Ein cwrs TGAU Mathemateg Bydd yn eich helpu i ddatblygu hyder mewn mathemateg ac agwedd gadarnhaol tuag ati ac i gydnabod pwysigrwydd a pherthnasedd mathemateg i’ch bywyd bob dydd ac i gymdeithas.

Bydd y cwrs yn eich galluogi i werthfawrogi cydlyniad, creadigrwydd, ceinder a phŵer mathemateg.  

Bydd hefyd yn cynnwys problemau a osodir yng nghyd-destunau’r byd go iawn ac o fewn mathemateg ei hun a bydd yn eich annog i weithredu a gwerthuso gwahanol dechnegau mathemategol gyda chymorth tiwtoriaid.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
1 Blwyddyn rhan amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Gallwch astudio TGAU mathemateg ar y cyd â’ch prif raglen astudio, neu gellir ei astudio’n rhan-amser fel dosbarth nos.

Bydd y cwrs yn rhoi’r hyder i chi ddod yn wydn yn fathemategol ac yn caniatáu i chi wneud penderfyniadau gwybodus mewn bywyd.

Bydd y cwrs TGAU mathemateg hwn hefyd yn caniatáu i chi ddatblygu ymhellach eich dealltwriaeth yn y pwnc ac yn caniatáu i chi drosglwyddo’r sgiliau rydych chi wedi’u datblygu, ar draws eich rhaglen ddysgu yn ei chyfanrwydd.

Bydd y cwrs yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau datrys problemau, cynhyrchu strategaethau i ddatrys problemau sy’n anghyfarwydd, ateb cwestiynau sy’n rhychwantu mwy nag un maes pwnc o’r cwricwlwm, gwneud cyfrifiadau yn y pen a chyfrifiadau heb gymorth cyfrifiannell, gwneud amcangyfrifon, deall siâp 3D, defnyddio cyfrifiaduron a chymhorthion technolegol eraill, casglu data a deall a defnyddio’r cylch datrys problemau ystadegol.

Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion a chyflogwyr bellach yn mynnu bod dysgwyr a gweithwyr yn dangos dealltwriaeth dda o rifedd. Bydd cael TGAU mewn mathemateg yn eich caniatáu i ehangu eich opsiynau gyrfa ac astudio.  

Bydd cwblhau’r cwrs yn eich paratoi i wneud penderfyniadau gwybodus am gyfleoedd dysgu pellach a dewisiadau gyrfa.  Bydd yn rhoi pwyslais ar yr agweddau hynny ar fathemateg sy’n ofynnol ar gyfer symud ymlaen i astudio pellach neu lwybrau cyflogaeth.

Papur 1 (heb gyfrifiannell) - papur ysgrifenedig                                

Hyd: haen ganolradd - 1 awr 45 munud; haen uwch - 1 awr 45 munud

Papur 2 (cyfrifiannell) - papur ysgrifenedig                                      

Hyd: haen ganolradd - 1 awr 45 munud; haen uwch - 1 awr 45 munud

Bydd y papurau ysgrifenedig ar gyfer pob haen yn cynnwys nifer o gwestiynau byr a hirach, strwythuredig ac anstrwythuredig, y gellir eu gosod ar unrhyw ran o gynnwys y pwnc.  

Haen Ganolradd 1 Flwyddyn - TGAU mathemateg gradd E neu uwch.

Haen Uwch 1 Flwyddyn - TGAU Mathemateg gradd C neu uwch.

Mae prawf mynediad ar gael i fyfyrwyr nad oes ganddynt dystiolaeth o gymwysterau blaenorol.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr dan 19 oed dalu ffi weinyddol o £25 cyn cofrestru. 
 
Mae’n ofynnol i bob dysgwr arall dalu ffi’r cwrs TGAU o £163 cyn cofrestru.

Efallai yr eir i gostau bach am gyfarpar mathemategol, megis cost cyfrifiannell wyddonol, pren mesur, onglydd ac ati.