Skip page header and navigation

Astudio Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch lles anifeiliaid? Ydych chi bob amser wedi breuddwydio am weithio gyda cheffylau? Fyddech chi wrth eich bodd yn deall pam fod bywyd gwyllt yn ymddwyn mewn ffordd arbennig? Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu cyffrous ar gyfer rhai sy’n dwlu ar anifeiliaid. P’un a oes gan eich hoff greaduriaid garnau neu bawennau, ffwr neu gennau, ar ein cyrsiau Gofal Anifeiliaid a Cheffylau byddwch yn ennill y sgiliau i’ch gyrru eich hun i yrfa foddhaus.

Byddwch yn profi cymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ymarferol, gyda digonedd o ryngweithio ag anifeiliaid, gan ganiatáu i chi ennill dealltwriaeth ddofn o wahanol rywogaethau o gnofilod ac ymlusgiaid i geffylau ac anifeiliaid egsotig. Hefyd byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn unedau profiad gwaith,  yn rhoi profiad uniongyrchol i chi yn eich diwydiant dewisol, a fydd yn rhoi hwb gwirioneddol i’ch cyflogadwyedd.

Gydag amrywiaeth o gyrsiau ar gynnig o Addysg Bellach a Phrentisiaethau i gyrsiau lefel Prifysgol ac Ar-lein, ceir rhywbeth i siwtio pob lefel. Felly os ydych yn barod i gymryd y cam nesaf, galwch heibio i ddiwrnod agored, cwrdd â rhai o’ch tiwtoriaid yn y dyfodol a chwblhewch ffurflen gais i wireddu eich breuddwydion o weithio gydag anifeiliaid.

Pam astudio cyrsiau Anifeiliaid a Cheffylau gyda ni …

01
Mynediad i gyfleusterau gofal anifeiliaid a cheffylau ardderchog, pwrpasol gydag ystod eang o anifeiliaid i chi gael gweithio gyda nhw.
02
Tîm addysgu tra chymwysedig â phrofiad yn y diwydiant sydd wedi gweithio ar draws amrywiol sectorau, gydag arbenigeddau ym mhob peth o anifeiliaid y fferm i rywogaethau egsotig a dyfrol.
03
Cysylltiadau cryf â busnesau lleol a rhyngwladol i ganiatáu cyfleoedd amrywiol ar gyfer dysgu ymarferol mewn sefyllfaoedd byd go iawn.

Cyn-fyfyrwyr

Tlysau gwydr wedi'u gosod ar fwrdd

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Astudio pellach, gan gynnwys ein cyrsiau lefel gradd Addysg Uwch, yn ogystal â graddau Meistr mewn sefydliadau eraill.
  2. Dechrau eu busnesau eu hunain fel hyfforddwyr a twtwyr cŵn, ffisiotherapyddion anifeiliaid a chadwraeth.
  3. Gweithio mewn sefydliadau anifeiliaid lleol fel ysgolion marchogaeth lleol a phractisau milfeddygol.

how to choose