Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr a phrentisiaid sy’n dilyn rhaglenni hyfforddi astudiaethau ceffylau yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl ymweliad â Sweden.

Croesawyd y grŵp gan Flyinge Kungsgård, canolfan geffylau sy’n lleoliad hyfforddi hanesyddol, enwog, lle maen nhw’n hyfforddi ceffylau heb eu torri i lefel grand Prix mewn neidio ceffylau, dressage a chystadlu. Hefyd maen nhw’n hyfforddi marchogion proffesiynol, ffariars, gyrwyr a myfyrwyr coleg.

Fe wnaeth chwe myfyriwr o Sir Gaerfyrddin fanteisio ar y profiad diwylliannol ac addysgol hwn a ariannwyd yn llawn gan Taith, rhaglen cyfnewid dysgu ryngwladol Cymru.

Meddai Lucy Cleaver, darlithydd astudiaethau ceffylau Coleg Sir Gâr: “Cawsom y fraint i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau pan oedden ni yn y ganolfan, fel ffariaeth, gyrru, torri a gwastrodi ceffylau ifanc a marchogaeth eu ceffylau Warmblood Swedaidd hyfryd.”

“Ond nid am geffylau yn unig ydoedd, mae’n bwysig bod myfyrwyr yn dysgu am ddiwylliant a chyfathrebu rhyngwladol felly ymwelon ni â Bollerup a chawsom daith o gwmpas yr ardal leol a’r adeiladau a chlywed ei hanes.

“Hefyd ymwelon ni â Denmarc, sef Copenhagen ac aethon ni i erddi Tivoli.  Mwynheuon ni barc thema ac yna ychydig o siopa yn lleol.”

Roedd y myfyrwyr hefyd wedi gallu profi arferion penodol y diwydiant gyda Lövsta Stuteri & Seminstation ble gwelon nhw gesig yn cael eu sganio, fflysio a’u semenu yn ogystal â gweld pencampwr y byd gydag enillydd pedair medal aur yn ymarfer o gwmpas rhwystrau.

Meddai Catherine Nicholls, prentis ceffylau yng Ngholeg Sir Gâr a oedd yn rhan o’r ymweliad: “Rwyf jest eisiau dweud diolch enfawr i dîm astudiaethau ceffylau’r coleg am y cyfle anhygoel hwn.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i fod wedi cael fy newis i fynd gan fod ymweld â Flyinge yn brofiad unwaith mewn bywyd gwirioneddol. Roedd gweld y genhedlaeth nesaf o farchogion gorau a’u ceffylau yn ymarfer gyda’i gilydd yn ysbrydoledig.”

Ychwanegodd Lucy Cleaver, darlithydd astudiaethau ceffylau Coleg Sir Gâr: “Fe wnaeth y myfyrwyr a’r staff i gyd fwynhau’r daith mas draw. Dysgon nhw lawer am y diwydiant  ceffylau a hanes a diwylliant Sweden, yn ogystal ag adeiladu tîm ac ehangu eu gorwelion a’u profiadau yn gyffredinol.”

Menyw ar ceffyl gwyn mewn arena
Myfyrwyr ar  ceffyl a cherbyd mewn arena
 Marchogaeth ceffyl brown mewn arena

Rhannwch yr eitem newyddion hon