Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr ar raglenni gofal anifeiliaid ar gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion yn elwa o sesiynau ymarferol wythnosol yn Animalarium y Borth lle maen nhw’n astudio ystod eang o anifeiliaid o gwningod i eifr i ddreigiau barfog a phryfed brigyn.

Mae’r bartneriaeth yn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr ar gyrsiau gofal anifeiliaid, waeth beth fo’u lefel astudio, yn cymryd rhan mewn sesiwn hanner diwrnod wythnosol yn y sŵ sy’n cael ei chyflwyno gan ddarlithwyr coleg.

Maen nhw’n dysgu oddi wrth ystod eang o anifeiliaid gan gynnwys anifeiliaid egsotig, adar, mamaliaid bach, cŵn, ceffylau a geifr, gyda phob grŵp yn dod â’i set ei hun o ofynion iechyd a lles. 

Mewn sesiwn ddiweddar, bu June Lincoln, darlithydd gofal anifeiliaid yng Ngholeg Ceredigion, yn tywys myfyrwyr drwy ystod o wiriadau iechyd anifeiliaid, gan ddefnyddio ei gwybodaeth helaeth a rhai pryfed o’i chasgliad hi ei hun, gan gynnwys miltroediaid a sgorpionau. 

Fe gyflwynodd hi Ariel, neidr ŷd goch fenywaidd llawn dwf tua 4 troedfedd o hyd.  Esboniodd sut y gallant ddefnyddio dirgryniad a synnwyr arbenigol o’r enw organ jacobson i ganfod ysglyfaeth. 

Fe wnaethant hefyd wirio iechyd draig farfog sy’n tarddu o Awstralia ac sydd angen goleuadau uwchfioled a gwres i oroesi mewn caethiwed.  Eglurodd June hefyd i fyfyrwyr bwysigrwydd maethiad cywir ac ychwanegion wrth fwydo ymlusgiaid i atal clefyd esgyrn metabolig a achosir gan ddiffyg calsiwm. 

Mae’r bartneriaeth hon yn galluogi myfyrwyr i archwilio a gweithio’n agos gydag amrywiaeth o rywogaethau fel geifr pigmi, cwningod bach a mawr, moch cwta, ffuredau, llygod a llygod mawr, yn ogystal â walabïaid, monitoriaid ackie, chameleonod a nadroedd gwasgu ymhlith eraill. 

Mae Coleg Ceredigion yn cynnig cyrsiau gofal anifeiliaid o lefel un, sy’n gymhwyster mynediad, i lefel tri, sy’n gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch ond sy’n fwy ymarferol eu natur ac sy’n seiliedig ar aseiniadau yn bennaf.

Mae gan fyfyrwyr y coleg fynediad i gyfleuster ceffylau o’r radd flaenaf i weithio gyda cheffylau a hefyd cyfleuster cyndy newydd gydag amrywiaeth o fridiau o gŵn.

Dywedodd Joshua Clements, myfyriwr gofal anifeiliaid lefel dau yng Ngholeg Ceredigion sy’n arbennig o hoff o fridiau egsotig: “Rwy’n eithaf mwynhau elfennau ymarferol y cwrs, felly mae’r ymweliadau hyn yn wych i mi, lle rydym yn cael ein hannog i drin pob math o anifeiliaid a bridiau egsotig. 

“Rwy’n hoffi pob anifail ond pan ddechreuais i’r coleg roeddwn yn ansicr ynghylch ceffylau, ond mae’r cwrs wedi fy helpu i oresgyn hynny felly rwyf bellach yn gyfforddus ac yn hyderus o’u cwmpas yn yr iard geffylau.”

Dwylo'n dal pryfyn
Myfyriwr gyda python
 Myfyriwr gyda ffured
Myfyriwr gyda ffured

Rhannwch yr eitem newyddion hon