Skip page header and navigation
Martha Edwards

Mae Martha Edwards wedi bod yn astudio tystysgrif addysg uwch ar-lein y coleg mewn gwyddor anifeiliaid a theithiodd o Fachynlleth i ddathlu ei graddio.

Mae’r dystysgrif yn gymhwyster lefel pedwar a astudir ar-lein naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser.

Roedd Martha wedi gwahanu’n ddiweddar ac roedd yn chwilio am ffordd i gael gyrfa sefydlog ac ychydig o annibyniaeth, a arweiniodd hi at y cwrs.

Gan gyfuno swydd a magu dwy ferch, dywedodd fod astudio ar-lein gymaint yn haws gan ei bod yn gallu astudio pan fyddai eu merched wedi mynd i’r gwely.

Meddai Martha Edwards: “Mae wedi bod yn siwrnai ddiddorol iawn ac rwyf wedi dysgu am gymaint o bethau hyd yn oed pryfed a phob math o anifeiliaid eraill.

“Mae gwthio fy hun y tu hwnt i’m cylch cysur wedi profi i mi fy mod yn gallu cyflawni pethau ystyrlon er gwaethaf yr amgylchiadau.”

Gall y cwrs ar-lein hwn arwain at symud ymlaen i radd sylfaen y coleg mewn gwyddor anifeiliaid neu’r radd BSc anrhydedd mewn ymddygiad a lles anifeiliaid.

Mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio trwy ddysgu o bell ddatblygu gwybodaeth graidd a sgiliau allweddol sy’n ofynnol i israddedigion sy’n anelu at weithio mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid neu sydd eisoes yn gweithio ynddynt.

Rhannwch yr eitem newyddion hon