Skip page header and navigation

Astudio Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Ydych chi’n barod i blymio i fyd arloesol gwallt a harddwch? Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydym yn cynnig cyrsiau a fydd yn tanio eich brwdfrydedd ac yn eich gosod ar y llwybr i yrfa lewyrchus.

Ar ein cyrsiau Gwallt a Harddwch, fe welwch y cyfuniad perffaith o theori a hyfforddiant ymarferol.  O ddysgu’r grefft o dorri gwallt yn fanwl gywir i feistroli’r tylino perffaith, bydd ein hyfforddwyr arbenigol yn eich arwain trwy bopeth sydd ei angen arnoch i’ch paratoi ar gyfer llwyddiant mewn salonau, sbâu a thu hwnt.

Mae ein salonau modern, eang yn llawn cyfarpar a chynhyrchion o safon broffesiynol ac yn rhoi cyfle i chi weithio mewn lleoliad byd go iawn. O dan oruchwyliaeth ein hyfforddwyr arbenigol, byddwch yn gallu datblygu eich talent 
mewn amgylchedd byd go iawn.

Mae gyrfa mewn gwallt a harddwch yn fwy na gwneud i bobl edrych yn dda yn unig - mae’n ymwneud â gwneud iddynt deimlo’n hyderus ac wedi’u grymuso.  P’un a ydych chi’n breuddwydio am ddod yn steilydd gwallt, yn therapydd harddwch, neu’n berchennog salon, bydd ein cyrsiau’n rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi droi eich brwdfrydig yn broffesiwn boddhaus.

Felly os ydych chi’n barod i adael argraff, cymerwch gipolwg ar ein cyrsiau, dewch draw i ddiwrnod agored, cyflwynwch gais ac ewn ati i siapio’ch dyfodol gyda’n gilydd.

Pam astudio Gwallt a Harddwch gyda ni?

01
Byddwch yn cael eich addysgu gan dimau dawnus, gyda chyfoeth o brofiad diwydiannol ac addysgu. Bydd dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr yn y diwydiant yn rhoi’r wybodaeth i chi am y tueddiadau diweddaraf ac yn eich ysbrydoli i anelu at ragoriaeth.
02
Cewch weithio gyda chleientiaid go iawn yn ein salonau eang gydag ystodau cynnyrch a chyfleusterau rhagorol.
03
Ceir llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau o fri ac ymuno â llu o gyn-enillwyr o'r coleg.

Past Students

Myfyriwr mewn iwnifform borffor yn rhoi triniaeth dwylo i gleient.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Astudio colur effeithiau arbennig yn y Brifysgol.
  2. Agor a rhedeg salonau gwallt a harddwch yn llwyddiannus ar draws y sir.
  3. Dod yn addysgwyr ac aseswyr trin gwallt.
Myfyriwr mewn gwisg ddu yn sychu gwallt cleient mewn salon.

Salonau Masnachol

Mae ein salonau masnachol yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr Gwallt a Harddwch ymarfer eu sgiliau newydd ar gwsmeriaid sy’n talu, dan oruchwyliaeth ein gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.  Rydym yn cynnig ystod o driniaethau, o estyniadau ewinedd, rhoi lliw haul, tylino ac adweitheg, i byrmio, lliwio a thorri gan ddefnyddio amrediad o gynhyrchion a gydnabyddir gan y diwydiant.

Newyddion Perthnasol...

Zoe Garbett yw sylfaenydd a pherchennog salon harddwch yn Aberteifi, The Retreat.  Mae ei salon yn noddfa ar gyfer harddwch ac ymlacio gyda Zoe a'i thîm yn arbenigo mewn triniaethau fel tylino, triniaethau i’r dwylo, triniaethau i’r  traed, tynnu blew â laser a llawer mwy.

Pictured at her salon with posters in the background