Skip page header and navigation

Ein Salonau

Introduction

Mae ein Salonau Trin Gwallt a Therapi Harddwch wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac yn llawn cyfarpar i ddarparu amgylchedd gwaith realistig, gan gynnig profiad ymarferol i’n dysgwyr ac amgylchedd croesawgar i’n cwsmeriaid. 

Mae’r salonau yn agored i’r cyhoedd, yn ogystal ag i fyfyrwyr a staff sydd i gyd yn gallu manteisio ar y triniaethau gwallt a harddwch diweddaraf am brisiau cystadleuol. O dan arweiniad arbenigol ein staff cwbl gymwys, gall myfyrwyr roi eu sgiliau ymarferol ar brawf wrth iddynt ddarparu ystod o wasanaethau i gwsmeriaid sy’n talu.

Rydym yn cynnig ystod o driniaethau, o estyniadau ewinedd, rhoi lliw haul, tylino ac adweitheg i byrmio, lliwio a thorri gan ddefnyddio ystod cynnyrch a gydnabyddir gan y diwydiant.

Cysylltwch â ni
Academi Steil - Aberteifi
Salon y Graig - Llanelli
Myfyriwr mewn gwisg ddu yn sychu gwallt cleient mewn salon.
Myfyriwr mewn iwnifform borffor yn rhoi triniaeth dwylo i gleient.

Rhestir Brisiau

  • Os ydych wedi cael pigiadau gwrth-rychau a/neu lenwyr dermol, bydd angen i chi aros 2 wythnos cyn cael triniaeth drydanol i’r wyneb.


    Triniaeth Deilwredig Eve Taylor i’r Wyneb (60 munud) £22
    Mae’n cynnwys masg triniaeth benodol a thyliniad draenio aciwbwysedd ar gyfer meinweoedd sensitif y llygaid. Mae triniaeth wynebol Priadara yn cynnwys glanhau, diblisgo a masg penodedig i adael y croen yn teimlo wedi’i adnewyddu a’i ieuangu.

    Triniaeth Gyflym Eve Taylor i’r Wyneb (30 munud) £12
    Mae’r driniaeth wynebol yn cynnwys glanhau’n ddwfn, a masg diblisgo a masg.

    Triniaeth Codi’r Wyneb Nad yw’n Llawfeddygol gan ddefnyddio Technoleg CACI MK1 (60 munud) £35
    Triniaeth soffistigedig sy’n helpu i ffyrfhau, tynhau, codi ac ail-hyfforddi’r cyhyrau. Ar unwaith, mae llinellau man yn amlwg yn fwy meddal, mae cynhyrchu colagen ac elastin yn cynyddu, mae’r croen yn llenwi a lleithder ac yn cael ei fireinio. Hyd yn oed ar ôl un driniaeth mae’r gwahaniaeth gweladwy yn ddramatig ac mae gan y croen olwg ifanc.

    NEWYDD Triniaeth Dynhau i’r Wyneb Nad yw’n Llawfeddygol Nodweddiadol CACI Synergy (60 Munud) £45
    Mae’r driniaeth i’r wyneb anfewnwthiol hon yn cynnwys S.P.E.® Dual Action Technology sy’n darparu adfywiogi’r croen ar yr un pryd a thynhau’r wyneb. Mae’r driniaeth hon yn defnyddio impylsau meicrogerrynt, i godi a thynhau a therapi golau LED i wella elastigedd y croen a lleihau ymddangosiad llinellau man a chrychau. Mae’n ffurfio eich wyneb ac yn gwneud i’ch croen edrych yn fwy ifanc, yn ffres ac yn wridog.

    Triniaeth i’r wyneb - Y 5 Moethusrwydd (90 Munud) £55
    Ewch ati i lyfnhau, hydradu, codi, adfer, a thynhau eich croen. Daw ein triniaeth uwch i’r wyneb therapiwtig, foethus, hyfryd, nad yw’n llawfeddygol ac sy’n adfywio, â’r gwrid disglair yn ôl i’ch croen. Mae’r driniaeth i’r wyneb yn cynnwys ysgogi cyhyrau yn drydanol sy’n eu cryfhau. Caiff cyhyrau penodol eu hymarfer dro ar ôl tro drwy ysgogiad gan y cerrynt trydanol, sy’n creu effaith tynhau, ffyrfhau. Cyflwynir galfanedd i’r croen gan ddefnyddio cerrynt uniongyrchol i greu effeithiau penodol ar yr arwyneb a meinweoedd gwaelodol, gan gynyddu cylchrediad y gwaed a chylchrediad lymffatig a lleihau chwyddo a golwg bwfflyd. Cynhyrchir moleciwliau ocsigen cyfoethog amledd uchel uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n creu gweithred wrthfacterol a chynhesu’r meinwe yn thermol mewn modd “naturiol”. Mae’r adwaith hwn yn helpu eich pibellau gwaed i wthio tocsinau i ffwrdd, tra bod y celloedd yn eich croen yn cael eu cyfoethogi â maetholion a mwy o hydradiad. Mae tylino draenio lymffatig dwfn gan ddefnyddio dyfais fecanyddol yn gwella cylchrediad y gwaed a chylchrediad lymffatig, gan leihau chwyddo anfeddygol a golwg bwfflyd, a thynnu sebwm ac amhureddau allan yn ysgafn.

    Coluro (45 Munud) £10
    Mae paratoi ar gyfer rhoi colur yn cynnwys glanhau, tynhau a lleithio. Rhoi colur ar gyfer unrhyw achlysur. Mae’r sesiwn yn cynnwys gwers mewn rhoi colur i’r cleient.

  • Mae holl therapiau’r dwylo a’r traed yn cynnwys ffeilio’r ewinedd i’r siâp a ddymunir. Gwaith cwtigl, tylino, therapi olew arbenigol, cwyr paraffin neu fenig/bŵts bach thermol, lleithio a pheintio.


    • Triniaeth Therapi Dwylo Cyflym (30 Munud) £18
    • Triniaeth Therapi Traed Cyflym (30 Munud) £20
    • Triniaeth Foethus i’r Dwylo (50 Munud) £23
    • Triniaeth Foethus i’r Traed (50 Munud) £25
      (Gan gynnwys Cwyr Paraffin, Olew Poeth neu Gynheswyr Thermol)
    • Rhoi farnais gel ar y dwylo (30 Munud) £20
    • Rhoi farnais gel ar y traed (30 Munud) £22
    • Rhoi farnais gel ar y dwylo a’r traed (60 Munud) £39
    • Tynnu farnais gel a rhoi o’r newydd (ein cynnyrch, fesul ardal) (30 Munud) £25
    • Tynnu farnais gel (ein cynnyrch, fesul ardal) (30 Munud) £10
  • Tylino’r Corff (60 munud) £25
    Gan gynnwys yr Wyneb a Chroen y Pen (75 munud) £30
    Tylino adfywhaol sy’n ysgogi cylchrediad y gwaed, gan gynhesu’r holl feinweoedd a chyhyrau. Mae’r tylino dwfn yn lleddfu unrhyw densiwn a straen, gan eich gadael uwch ben eich digon!

    Triniaeth Gwres Isgoch: Bendigedig ar gyfer seiatica neu boen cyhyrol difrifol.
    Sonig: Mae’n targedu tensiwn poenus.

    Tylino’r Cefn, y Gwddf a’r Ysgwyddau (30 munud) £15
    Mae’r driniaeth hon yn dechrau gyda symudiadau arbenigol dros y cefn, y gwddf ac ardal yr ysgwyddau, gan ganolbwyntio ar y mannau tensiwn.

    Tylino a Cherrig Poeth: Corff cyfan gan gynnwys yr Wyneb a Chroen y Pen (75 munud) £30
    Dychmygwch eich hun yn arnofio ar for o gynhesrwydd moethus. Mae holl ofidiau a straen y dydd yn diflannu. Tylino â Cherrig Poeth gan Soothing Stone yw’r driniaeth dylino berffaith. Profwch y teimladau anhygoel na ellir eu cael ond gyda’r cerrig lafa hyn sydd wedi’u cynaeafu’n arbennig.

    Tylino Aromatherapi wedi’i Gyn-gymysgu i’r corff cyfan (60 munud) £25
    Gan gynnwys yr Wyneb a Chroen y Pen (75 munud) £30
    Cefn, Gwddf ac Ysgwyddau (30 munud) £20
    Ewch ati i fwynhau’r profiad ymlacio eithaf gyda’n tylino aromatherapi, triniaeth gyfannol sy’n cyfuno pŵer lleddfol olewau naws a thechnegau tylino arbenigol. Caiff pob sesiwn ei theilwra i’ch anghenion unigryw chi, gan ddefnyddio olewau naws a ddewiswyd yn ofalus sy’n adnabyddus am eu priodweddau therapiwtig. P’un a ydych yn ceisio rhyddhad rhag straen, tensiwn yn y cyhyrau, neu’n dymuno gwella eich lles cyffredinol, mae ein tylino aromatherapi yn cynnig dihangfa adfywiol i’r corff, y meddwl a’r ysbryd. Mwynhewch awyrgylch tawel, gofal personol, a buddion naturiol aromatherapi, gan eich gadael wedi adfywio, yn gytbwys, ac wedi ailfywiogi. Trawsiwch eich hun i’r heddwch rydych yn ei haeddu.

  • Gan gynnwys Ymgynghoriad, Triniaeth Drydanol i’r Corff i Wella’r Ffigwr a’r Croen (60 munud) £30
    Bydd ymgynghoriad trylwyr yn cael ei gynnal a bydd triniaethau gwella’r ffigwr penodol yn cael eu hargymell yn broffesiynol yn unol â’ch anghenion i dargedu mannau problemus. Mae amrywiaeth o driniaethau ar gael fel Galfanig, Ysgogi’r Cyhyrau yn Drydanol, G5 a Sugno Gwactod. Mantais y driniaeth yw gwella ymddangosiad seliwleit ac olion ymestyn, ansawdd y croen, tynhau, ffurfio, ac ailamlinellu’r ffigwr.

    Tylino Seliwleit Trydanol CACI (45 munud) £25
    Cewch godi, siapio a thynhau ardal eich pen-ôl a’ch cluniau ar unwaith. Mae’r driniaeth hon yn gwella ymddangosiad seliwleit ac yn chwalu dyddodion brasterog. Mae’n ysgogi cylchrediad a draeniad lymffatig, a fydd yn helpu i olchi tocsinau i ffwrdd gan roi golwg llyfnach a thynnach, heb bantiau. Mae’r driniaeth hon yn ddelfrydol ar gyfer pampro’r corff cyn gwyliau.

    Mae cyrsiau o driniaethau ar gael. Gofynnwch i gael mwy o fanylion.

  • Twf blew 4-6 wythnos/o leiaf ¼” sy’n rhoi’r canlyniad gorau.

    • Ceseiliau (15 munud) £10
    • Hanner coes (30 munud) £12
    • Siapio aeliau (15 munud) £5
    • Cwyro coes gyfan (50 munud) £15
    • Gwefus, gên neu aeliau (15 munud) £7
    • Cwyro coes gyfan gan gynnwys bicini (65 munud) £20
    • Bicini (15 munud) £10
  • Mae angen prawf croen 24–48 awr cyn pob triniaeth tintio.

    • Tintio amrannau (20 munud) £9
    • Tintio amrannau ac aeliau (30 munud) £11
    • Tintio a siapio aeliau (25 munud) £11
    • Tintio aeliau (10 munud) £7
  • Gwasanaethau Academi Pris Proffesiynol Pris
    Chwythsychu Uwch na’r Ysgwyddau £7.00 £10.00
    Chwythsychu Is na’r Ysgwyddau £10.00 £13.00
    Slampw a Set £10.00 £15.00
    Gwallt i Fyny/Steilio £10.00 £15.00
    Torri a Gorffennu (Trimio, Twtio neu fân newid) £10.00 £15.00
    Ailsteilio (Newid sylweddol) £15.00 £20.00
    DTorri Gwallt Sych £10.00
    Plant dan 10 £10.00
    Lliwio’r Gwreiddiau (Llai na dwy fodfedd) £20.00 £25.00
    Cannu Gwreiddiau gydag Adfywiad Arlliw (Llai na dwy fodfedd) £25.00 £25.00
    Lliw Lled-barhaol/ Arlliw Pen Llawn £25.00 £25.00
    Lliw Parhaol Pen Llawn £30.00 £30.00
    Ffoiliau Hanner Pen/Adran T £35.00 £35.00
    Blaenoleuadau/Cap £25.00
    Ffoiliau Pen Llawn £45.00 £45.00
    Lliwio’r Gwreiddiau rhwng ffoiliau £10.00 £10.00
    Lliwio’r pen cyfan gyda ffoiliau £15.00 £15.00
    Cannu Pen Llawn gydag Arlliw - Hyd Byr £35.00 £35.00
    Cannu Pen Llawn gydag Arlliw - Hyd Canolig £40.00 £40.00
    Cannu Pen Llawn gydag Arlliw - Hyd Hir £50.00 £50.00
    Cannu Pen Llawn gyda Gwawriau Ffasiwn £55.00 £55.00
    Cywiro Lliw (Newid Lliw Sylweddol) £70.00 £70.00
    Cyflyru Dŵr a Chwythsychu £25.00 £25.00
    Triniaeth Ailstrwythuro a Chwythsychu - Link D £25.00 £25.00
    Toriad Ychwanegol gyda unrhyw liw £10.00 £15.00
    Triniaeth Ailstrwythuro wedi’i gymysgu gyda Rhoi Un Lliw £10.00 £10.00
    Gordal Gwallt Hir Llaw £5.00 £10.00
    Gordal Gwallt Hir iawn iawn £10.00 £15.00
  • STEILIO

    • Siampŵ a set: £7.50
    • Siampŵ a gorffennu: £7.50
    • Sythu’r gwallt (steilio â gwres): £5.50
    • Plethu / twistio - gwallt sych: £8.00
    • Perm - sylfaenol: £30.00
    • Gwallt i fyny priodasol/prom: £25.00

    TORRI A GORFFENNU

    • Torri gwallt a gorffennu i ferched: £10.00
    • Torri gwallt merched yn sych: £8.00
    • Torri gwallt dynion yn sych: £5.00
    • Torri gwallt a gorffennu i ddynion: £6.50

    TRINIAETHAU

    • Triniaeth gyflyru: £8.00

    LLIW

    • Lliw Lled-barhaol: £20.00
    • Lliw Parhaol is na’r ysgwydd: £30.00
    • Lliw Parhaol uwch na’r ysgwydd: £24.00
    • Lliw parhaol - gwreiddiau’n unig: £22.00
    • Blaenoleuadau ac Isoleuadau cap: £20.00
    • Blaenoleuadau neu Isoleuadau gorchudd wedi’i wehyddu (hyd at 12 o ffoiliau): £20.00
    • Blaenoleuadau/isoleuadau gweadog hanner y pen yn uwch na’r ysgwydd: £26.00
    • Blaenoleuadau/isoleuadau gweadog hanner y pen yn is na’r ysgwydd: £32.00
    • Blaenoleuadau/isoleuadau gweadog pen cyfan yn uwch na’r ysgwydd: £32.00
    • Blaenoleuadau/isoleuadau gweadog pen cyfan yn is na’r ysgwydd: £36.00
    • Gweadau ynghyd â lliw mewnlenwi: £46.00

    GWASANAETHAU ARBENIGOL

    • Lliw bloc: o £35.00
    • Lliw ombre: o £45.00
    • Lliw balayage: o £45.00
    • Cywiro lliw: o £40.00
    • Cyfuniad o liwiau: o £40.00
    • Triniaeth Unigol Eve Taylor i’r Wyneb: £15 | 60mun
    • Tintio Blew’r Amrannau - Prawf croen yn ofynnol 48/24 awr cyn y driniaeth: £6.50 | 20mun
    • Tintio’r Aeliau: £3.50 | 10mun
    • Siapio’r Aeliau gyda phlicwyr: £4.00 | 15mun
    • Triniaeth Sylfaenol i’r Dwylo: £10 | 45mun
    • Triniaeth Foethus i’r Dwylo - yn cynnwys dewis o fasg a menig cynnes neu gwyr paraffin: £15 | 60mun
    • Triniaeth Sylfaenol i’r Traed: £10 | 50mun
    • Triniaeth Foethus i’r Traed - yn cynnwys dewis o fasgiau a bwts cynnes neu gwyr paraffin: £15 | 60mun
    • Cwyro’r coesau cyfan: £10 | 45mun
    • Cwyro’r coesau cyfan gan gynnwys bicini: £12.50 | 60mun
    • Cwyro hanner y coesau: £8.00 | 30mun
    • Cwyro’r ceseiliau: £5 | 15mun
    • Cwyro Bicini: £5 | 15mun
    • Cwyro gwefus neu ên: £3 | 15mun
    • Cwyro aeliau: £5 | 15mun
    • Tylino Swedaidd i’r cefn, gwddf ac ysgwyddau: £10 | 30mun
    • Tylino Swedaidd i’r corff cyfan gan gynnwys yr wyneb a chroen y pen: £15 | 60/75mun
    • Triniaeth Tylino Aromatherapi wedi’i Gymysgu Eve Taylor i’r cefn, gwddf ac ysgwyddau: £12 | 30mun
    • Triniaeth Tylino Aromatherapi wedi’i Gymysgu Eve Taylor i’r corff cyfan gan gynnwys yr wyneb a chroen y pen: £18 | 60/75mun
    • Tylino’r cefn, gwddf ac ysgwyddau gyda cherrig poeth: £12 | 30mun
    • Tylino’r corff cyfan gyda cherrig poeth: £15 | 60mun
    • Tylino Pen Indiaidd: £15 | 45mun
    • Triniaeth Ficrografu’r croen: £20 | 60/90mun
    • Triniaeth i’r wyneb anfeddygol: £20 | 60/90mun
    • Triniaeth galfanig i’r wyneb: £12 | 60/90mun
A student using a blowdryer.

Dewch o hyd i gyrsiau Gwallt a Harddwch