Skip page header and navigation

Dewch i gwrdd â Thîm Therapi Harddwch Coleg Ceredigion

Dewch i gwrdd â Thîm Therapi Harddwch Coleg Ceredigion

Nia, Caryl and Roma in their uniforms

Nia Evans

Nia in her grey beauty college uniform

Mae gen i ddiddordeb brwd mewn triniaethau i’r wyneb a thriniaethau uwch i’r wyneb. Rwy wrth fy modd yn addysgu’r cyfuniad o ymlacio trwy dylino a thriniaethau rhagnodol uwch i’r wyneb, wedi’u teilwra ar gyfer pob cleient a’i math o groen. 

Nia Evans

  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn therapi harddwch?

    A dweud y gwir doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud pan adewais i’r ysgol. Roedd rhaid i mi fynd i’r coleg a dewis cwrs i wneud oherwydd fedrwn i ddim bod yn achubwr bywyd yn fy mhwll nofio lleol am byth, rhywbeth roeddwn i’n meddwl byddai’n ddewis gyrfaol gwych ar y pryd.

    Dewisais i therapi harddwch oherwydd roeddwn i’n mwynhau gwneud fy aeliau o oed ifanc, yn bennaf oherwydd roedd fy aeliau’n cyffwrdd yn y canol ac roeddwn i’n casáu hynny. Roeddwn i wrth fy modd gyda phobl ac yn arbennig roeddwn i’n hoffi helpu eraill gyda’u haeliau. Doeddwn i ddim mewn cariad yn syth gyda therapi harddwch pan oeddwn i yn y coleg, daeth hynny’n hwyrach pan ddechreuais i weithio ar wahanol gleientiaid mewn sbaon a salonau. Byddwn i’n ffynnu ar wneud fy nghleientiaid yn hapus a gwneud yn siŵr fy mod wedi rhoi’r profiad gorau iddynt. Byddwn i bob amser yn mynd yn rhy hoff o’m cleientiaid ac yn dwlu clywed am eu diwrnod a beth roedden nhw wedi bod yn ei wneud ers eu hapwyntiad diwethaf.  

    Allwch chi rannu ychydig am eich taith broffesiynol?

    Mae gen i ddiddordeb brwd mewn triniaethau i’r wyneb a thriniaethau uwch i’r wyneb. Rwy wrth fy modd yn addysgu’r cyfuniad o ymlacio trwy dylino a thriniaethau rhagnodol uwch i’r wyneb, wedi’u teilwra ar gyfer pob cleient a’i math o groen. Mae obsesiwn gen i gydag aeliau a thrawsnewid ymddangosiad cyfan cleient gyda thintio a chwyro. Byddwn i wastad yn cymryd fy amser gydag aeliau cleient a gwneud yn siŵr bod siâp ac arlliw’r tint yn berffaith ar gyfer ei (g)wallt a siâp ei (h)wyneb. Rwy’n ei weld fel celfyddydwaith sy’n cael ei arddangos ar wyneb cleient i bawb ei weld. Byddwn i wastad yn rhedeg dros amser gydag aeliau a dod i drafferth achos bod fy holl golofn ddim yn cydfynd oherwydd beth ddylai fod wedi bod yn dasg siapio aeliau cyflym. 

    Syrthiais i i mewn i addysgu oherwydd fy iaith Gymraeg, roedd yna ddarparwr hyfforddiant bach yn Aberystwyth oedd angen aseswr oedd yn siaradwr Cymraeg rhugl. Dechreuais i addysgu cyfuniad o wallt a harddwch lefel un mewn ysgolion ac roeddwn yn gwybod ar unwaith mai addysgu therapi harddwch oedd y llwybr gyrfaol mwyaf rhagorol, gwerth chweil i fod arno. Fy nghyrchnod hirdymor oedd addysgu therapi harddwch lefel tri a llwyddais i gyflawni hyn o’r diwedd y llynedd. 

    Sut ydych chi’n cadw’n gyfoes gyda’r tueddiadau a’r technegau diweddaraf yn y diwydiant harddwch?

    Rwy’n mwynhau uwchsgilio ac rwy’n dal i fod yn llawn cyffro wrth ddysgu triniaethau a thechnegau newydd. Rwy’n cofrestru’n rheolaidd ar gyfer gwahanol driniaethau i’r wyneb er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn gyfoes o ran peiriannau a chynhyrchion newydd. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o addysgu rydyn ni wedi trwytho ein hadran i gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a chystadlaethau WorldSkills y DU. 

    Pa gyngor fyddech chi’n rhoi i fyfyrwyr sy’n gobeithio mynd i mewn i faes therapi harddwch?

    Byddwn i’n annog myfyrwyr i ymweld â’u coleg lleol ar gyfer noson agored ac efallai siarad â myfyrwyr presennol ac unrhyw un eu bod efallai yn eu hadnabod sy’n gweithio yn y diwydiant, er mwyn gwneud yn siŵr y byddai’n yrfa ddewisol y gallen nhw weld eu hunain ynddi. Mae therapi harddwch yn swydd flinedig, sy’n gofyn llawer ond mae’r gwobrau yn gorbwyso hyn yn helaeth os ydych yn berson gofalgar sy’n ymdrechu at berffeithrwydd yn eich gwaith. 

    Sut ydych chi’n ymlacio ac ymarfer hunan-ofal?

    Rwy’n mwynhau gwylio fy mhlant yn gwneud eu gweithgareddau amrywiol gyda’r nos, fel marchogaeth, rygbi a nofio. Rwy’n berson sy’n caru cŵn ac rwy’n mwynhau cerdded milltiroedd gyda fy nghi ar y penwythnosau. Ond ar gyfer fy hunan-ofal fy hun rwy’n hoffi nofio, nid padlo’n hamddenol ond nofio dull rhydd am bellter hir. Mae hyn yn helpu cadw fi’n ffit ac mae’n clirio fy mhen. 

Caryl Edwards

Caryl headshot in her grey uniform

Rwy’n dal i weithio yn y diwydiant felly mae hynny’n cadw fy sgiliau’n gyfoes ac yn fy nghadw’n gyfoes gyda’r tueddiadau yn ogystal â mynychu hyfforddiant ychwanegol.

Caryl Edwards

  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn therapi harddwch?

    Roeddwn i bob amser yn ei chael yn anodd yn academaidd yn yr ysgol ac roeddwn i bob amser yn fwy ymarferol ac yn dwlu ar weithgareddau ymarferol. Mewn gwirionedd, nid harddwch oedd fy newis cyntaf ac fe ges i drafferth o ran beth roeddwn i am wneud fel gyrfa. 

    Gwnes i harddwch oherwydd es i i gael rhai triniaethau cyn bod fy chwaer yn priodi. Mwynheuais i’n fawr gwylio’r therapydd ac oherwydd fy mod yn gofyn cymaint o gwestiynau fe wnaeth hi droi a dweud, “pam na wnewch chi gwrs harddwch?” Felly dyna beth gwnes i. Cofrestrais i ar gwrs harddwch rhan-amser ac roeddwn i wrth fy modd gyda fe. Roeddwn i wedi dod o hyd i rywbeth roeddwn i’n dda’n ei wneud ond roeddwn i hefyd yn ei fwynhau. 

    Allwch chi rannu ychydig am eich taith broffesiynol?

    Gadewais i’r coleg ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig swydd yn Sba Neuadd Ragdale o ganlyniad i fod yno ar brofiad gwaith. Gwnes i fy nghyfnod prawf tri mis ond penderfynais ddilyn fy mhartner oedd wedi cael swydd fel athro yn Essex ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd mewn Salon yn Chigwell. Mwynheuais i fy amser yno yn fawr iawn ac mewn gwirionedd yr hyfforddiant ces i gwnaeth fi’r therapydd ydw i nawr.

    Wedyn penderfynon ni symud adref i Gymru a gweithiais i mewn Salonau a Sbaon yn yr ardal leol. Yna penderfynais i ddechrau fy musnes fy hun. 

    Roedd addysgu’n rhywbeth oedd o ddiddordeb i mi felly gwnes i gwrs cyflwyniad i addysgu ac wedi hynny roeddwn yn lwcus i gael lle ar gwrs TAR. Fe wnes i gwblhau blwyddyn a daeth swydd wag yng Ngholeg Ceredigion felly penderfynais i roi cynnig amdani gan ei bod mor agos i gartref. Llwyddais i gael cynnig rhai oriau addysgu ac mae’r gweddill yn hen hanes.

    10 mlynedd yn ddiweddarach ac rwy’n dal i fod wrth fy modd yn addysgu therapi harddwch ar bob lefel. Rwy’n dwlu gwneud ewinedd, triniaethau i’r traed a’r wyneb ond rwy wrth fy modd gyda phob triniaeth harddwch i fod yn onest. 

    Sut ydych chi’n cadw’n gyfoes gyda’r tueddiadau a’r technegau diweddaraf yn y diwydiant harddwch?

    Rwy’n dal i weithio yn y diwydiant felly mae hynny’n cadw fy sgiliau’n gyfoes ac yn fy nghadw’n gyfoes gyda’r tueddiadau yn ogystal â mynychu hyfforddiant ychwanegol.

    Pa gyngor fyddech chi’n rhoi i fyfyrwyr sy’n gobeithio mynd i mewn i faes therapi harddwch?

    Dilynwch eich breuddwydion a pheidiwch fyth â rhoi i fyny achos mae unrhyw beth yn bosibl os gwnewch chi ond cadw ati a chredu ynoch chi eich hun.

    Sut ydych chi’n ymlacio ac ymarfer hunan-ofal?

    Treulio amser gyda fy nheulu (mae’n deulu prysur iawn gyda thri o blant, gŵr a chi) ac rwy wedi ymuno â chôr yn ddiweddar. 

Roma Morgan

Roma head shot wearing a grey uniform and cardigan

Nid yw’n ymwneud ag edrych yn dda yn unig, ond am deimlo’n dda hefyd, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae gan driniaethau fel triniaethau i’r wyneb, tyliniadau, ac arferion gofal croen y fath effaith gadarnhaol ar les cyffredinol pobl, ac roeddwn i am fod yn rhan o hynny. 

  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn therapi harddwch?

    Rwyf wedi bod â diddordeb mewn iechyd a lles erioed, ac roedd therapi harddwch yn edrych fel y cyfuniad perffaith o’r ddau. 

    Nid yw’n ymwneud ag edrych yn dda yn unig, ond am deimlo’n dda hefyd, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae gan driniaethau fel triniaethau i’r wyneb, tyliniadau, ac arferion gofal croen y fath effaith gadarnhaol ar les cyffredinol pobl, ac roeddwn i am fod yn rhan o hynny. 

    Yn ogystal, mae gwell gen i waith ymarferol, gweithredol dros eistedd wrth ddesg, a hynny’n union y mae therapi harddwch yn ei gynnig. Mae pob diwrnod yn wahanol, ac rydych yn rhyngweithio’n gyson gyda chleientiaid ac yn defnyddio eich sgiliau mewn ffordd ffisegol, real iawn. Mae’n yrfa ddynamig sy’n dal fy niddordeb ac yn gwneud i mi deimlo boddhad.

    Allwch chi roi cipolwg i ni ar eich taith broffesiynol a phrofiad yn y diwydiant harddwch?

    Dechreuodd fy nhaith yn y diwydiant harddwch gyda brwdfrydedd angerddol dros ofal croen a lles. 

    Bûm yn gweithio mewn nifer o salonau a sbaon, yn arbenigo mewn triniaethau i’r wyneb, triniaethau gofal croen a therapi tylino. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cael y cyfle i weithio gydag amrywiaeth eang o gynhyrchion ac i ddysgu technegau uwch, sydd wedi mireinio fy nealltwriaeth o wahanol fathau o groen a chyflyrau. 

    Wrth i mi ennill mwy o brofiad, sylweddolais fod gen i ddiddordeb brwd mewn addysgu a rhannu fy ngwybodaeth gydag eraill. Arweiniodd hyn i mi symud i mewn i addysg, a bellach rwy’n addysgu therapi harddwch ac wedi bod yn addysgu ers 2002. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda myfyrwyr sydd newydd gychwyn ar eu taith yn y diwydiant harddwch. Mae’n anhygoel o werth chweil eu gwylio’n tyfu mewn hyder a sgil wrth iddynt ddatblygu eu harddulliau unigryw a’u hagweddau tuag at harddwch.

    Rwyf hefyd wedi cael hyfforddiant fel therapydd chwaraeon oherwydd roeddwn i am ehangu fy ngwybodaeth ac roedd yn gweithio’n dda gyda fy nghymwysterau harddwch. Felly es i nôl i’r coleg a hyfforddi fel therapydd chwaraeon ac mewn anafiadau chwaraeon gyda diplomâu lefel dau a thri.  Fe wnaeth fy nhaith broffesiynol fel therapydd chwaraeon ddatblygu gyda diddordeb brwd ar gyfer iechyd a ffitrwydd. Rwyf wedi fy nghyfareddu erioed gan y corff dynol a’r modd y mae’n symud, yn enwedig o ran atal anafiadau ac adferiad. 

    Ar ôl cwblhau fy hyfforddiant, enillais brofiad yn gweithio gydag athletwyr, timau chwaraeon, ac unigolion oedd yn gwella o anafiadau. Rhoddodd hyn sylfaen gref i mi mewn tylino chwaraeon, adsefydlu, a thrin anafiadau. 

    Agorais fy musnes fy hun yn Aberystwyth yng Ngrŵp Meddygol Ystwyth yn arbenigo mewn micrografu croen yr wyneb ac anafiadau chwaraeon ac roedd helpu unigolion wella o anafiadau ac adennill eu nerth yn anhygoel o werth chweil. Mwynheuais i’r her o ddiagnosio a thrin amrywiol gyflyrau a’r boddhad o weld cleientiaid yn dychwelyd i’w potensial llawn oedd yr hyn wnaeth fy symbylu bob dydd. Helpu rhywun i wella o anaf personol -  roeddwn i wrth fy modd yn bod yn rhan o’u taith i wellhad a gweld y gwahaniaeth y gallai triniaeth effeithiol wneud yn eu bywydau.

    Pan symudais i addysgu ar ôl ennill fy nghymhwyster addysgu ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan, cefais y profiad o rannu fy ngwybodaeth gyda myfyrwyr oedd yn awyddus i ddysgu am therapi harddwch a chwaraeon yn hynod o werth chweil. Mae addysgu’n caniatáu i mi gyfuno fy mhrofiad ymarferol gydag ochr academaidd y pwnc, gan helpu myfyrwyr ddeall theori a chymhwysiad ymarferol technegau therapi harddwch a chwaraeon ill dau. Rwy’n angerddol ynghylch rhoi iddynt y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo. 

    Sut all myfyrwyr gadw’n gyfoes gyda’r tueddiadau a’r technegau diweddaraf yn y diwydiant harddwch?

    Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cofrestru ar gyrsiau byr neu ddiplomâu uwch mewn triniaethau harddwch newydd, technolegau gofal croen, neu gyrsiau chwaraeon. 

    Digwyddiadau Byw: Mynychu sioeau masnach harddwch (fel Beauty UK neu Salon International), a chynadleddau, ble gallwch chi archwilio’r datblygiadau arloesol a thechnegau mwyaf diweddar.

    Cylchgronau masnach harddwch: Mae cyhoeddiadau fel Professional Beauty, Salon Business, a chylchgrawn Scratch yn werthfawr ar gyfer cael diweddariadau ar dueddiadau, offer a thechnegau diweddaraf y diwydiant.

    Cylchlythyrau: Mae llawer o frandiau a chyrff y diwydiant yn cynnig cylchlythyrau i’ch cadw’n gyfoes ynghylch datblygiadau newydd. 

    Pa gyngor fyddech chi’n rhoi i fyfyrwyr sy’n gobeithio mynd i mewn i faes therapi harddwch?

    Archwiliwch wahanol rannau oherwydd mae therapi harddwch yn eang; mae’n cynnwys gofal croen, ewinedd, tylino, rhoi colur, a llawer mwy. Rwy’n cynghori myfyrwyr i roi cynnig ar wahanol rannau yn ystod ei hastudiaethau er mwyn darganfod eu diddordebau brwd a’u cryfderau.

    Mae ardystiadau yn bwysig at ddibenion yswiriant: Gwnewch hyn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyrsiau achrededig (megis VTCT neu CIBTAC) a chanolbwyntiwch ar ennill cymwysterau a gydnabyddir gan gyrff y diwydiant, megis BABTAC neu FHT.

    Dylai myfyrwyr arddangos eu gwaith a dogfennu popeth gyda ffotograffau cyn-ac-ar ôl neu greu portffolio yn amlygu eu triniaethau neu edrychiadau colur gorau. Mae hyn yn eu helpu i sefyll allan wrth ymgeisio am swyddi a denu cleientiaid.

    Byddwn i’n annog myfyrwyr i ddefnyddio platfformau fel Instagram neu TikTok i rannu eu gwaith, aros mewn cysylltiad â’r gymuned harddwch, a denu darpar gleientiaid.

    Sut ydych chi’n ymlacio ac ymarfer hunan-ofal?

    Rwy wrth fy modd yn treulio amser gyda theulu a ffrindiau, ac edrych ar ôl Murphy, ci fy merch. Rwy’n dwlu ar fath poeth, canhwyllau ac ymlacio gyda llyfr. Dyna yw fy amser i. Hefyd rwy’n mwynhau gwyliau ac archwilio lleoedd newydd, ond yn fwyaf oll treulio amser gyda fy nheulu sy’n fy ngwneud i’n hapus. 

Darganfod mwy

  • Wrth wraidd ein rhaglenni therapi harddwch mae tîm brwdfrydig iawn o ddarlithwyr sy’n ymroddedig i feithrin talent ac ysbrydoli llwyddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o therapyddion harddwch.

    Gyda blynyddoedd o brofiad proffesiynol yn y diwydiannau lles a harddwch, mae ein tîm yn dod â chyfoeth o wybodaeth mewn technegau blaengar, gwyddor gofal croen, a gofal cleientiaid.

    Maen nhw’n dîm calonogol o unigolion sydd ond am weld eu myfyrwyr yn datblygu i fod y gorau y gallant fod mewn amgylchedd meithriniol iawn, yn dysgu sgiliau mwyaf proffesiynol y diwydiant. 

    Mae’r tîm hwn yn rheoli Academi Steil neu Style Academy, sef cyfleuster hyfforddi’r coleg sydd ar agor i’r cyhoedd, ac sy’n cynnig amrywiaeth o’r triniaethau therapi harddwch mwyaf diweddar. 

    Mae ganddynt brofiad hefyd o feithrin myfyrwyr gwobrwyedig sy’n cystadlu yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru a chystadlaethau cenedlaethol WorldSkills y DU.

    Mae’r tîm therapi harddwch, sydd wedi’i leoli ar gampws Aberteifi’r coleg, wedi  bod mor garedig â chynnig cipolwg ar eu brwdfrydedd mawr am y diwydiant a’r sgiliau proffesiynol a addysgir yng Ngholeg Ceredigion. 

    Gwyliwch gyrsiau gwallt a harddwch yma neu ewch i Academi Steil/Style Academy ar Facebook cysylltwch â 01239 622300 neu gallwch wylio prisiau ar wefan Coleg Ceredigion.