Sut mae cyn-fyfyrwraig harddwch wedi creu busnes llwyddiannus yng nghanol Aberteifi
Zoe Garbett yw sylfaenydd a pherchennog salon harddwch yn Aberteifi, The Retreat. Mae ei salon yn noddfa ar gyfer harddwch ac ymlacio gyda Zoe a’i thîm yn arbenigo mewn triniaethau fel tylino, triniaethau i’r dwylo, triniaethau i’r traed, tynnu blew â laser a llawer mwy.
Dechreuodd Zoe ei thaith yn y diwydiant yn ôl yn 2016, pan astudiodd Ddiploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch - Llwybr Tylino yng Ngholeg Ceredigion ar eu campws yn Aberteifi. I ddechrau, cyflawnodd Zoe ei lefel un a dau o’r cwrs pan oedd yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr.
Dywed Zoe ei bod wrth ei bodd â’i hamser yn astudio yn y coleg a chyfarfod â phobl newydd gan gynnwys ei chyflogai presennol Lucy Jenkins sy’n arbenigo mewn cwyro ac ewinedd yn y salon prysur.
Meddai Zoe: “Pan oeddwn i a Lucy yn y coleg roedden ni mewn grŵp bach felly roedd y gwersi’n gartrefol iawn ac fe wnaethon ni gyd-dynnu’n dda iawn gyda’r darlithwyr, roedden nhw mor gyfeillgar a oedd yn beth braf iawn.
“Cawsom weithio gyda chleientiaid, felly roedd yn wych cael cleientiaid i ddod i mewn oherwydd mae hynny’n rhan fawr o’n diwydiant ac mae’n magu hyder. Tyfodd fy hyder gymaint rhwng fy nghleient cyntaf yn y coleg a fy nghleient olaf, ac roedd yn braf iawn bod y darlithwyr yno gan ein bod bob amser yn gofyn cwestiynau. Rhoddodd ymarfer da iawn i mi ar gyfer y byd tu allan.”
Ar ôl gadael y coleg, agorodd Zoe ei busnes ei hun gan ei redeg o’i chartref, yna ar ôl y pandemig coronafeirws, agorodd y drysau i’w salon ei hun yn Aberteifi a ddaeth â harddwch ac ymlacio at ei gilydd o dan yr un to.
Dywed Zoe er bod llawer o gyrsiau ar gael y gallwch eu gwneud mewn diwrnod, mae hi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn mynychu’r coleg.
Meddai: “Mae cymaint o gyrsiau ar gael y gallwch chi hyfforddi arnynt, ond rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn bod pobl yn dal i fynd i’r coleg gan fod y dyfnder hwnnw mewn dysgu ac mae yna rwydwaith cymorth da tra rydych chi’n astudio’r hyn rydych chi’n dwlu arno. Fy nghyngor i fyddai darganfod beth yw eich brwdfrydedd a beth rydych chi wir yn hoffi ei wneud a cheisio cadw at yr hyn rydych chi’n dwlu ei wneud.”
Mae’r salon Retreat wedi’i leoli yn uned 8, Canolfan Teifi yn nhref Aberteifi.