Astudio Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Os ydych yn angerddol am actio, canu, dawnsio, neu weithio tu ôl i’r llenni, gallai cwrs Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion fod y llwybr i chi at yrfa gyffrous yn y diwydiant celfyddydau creadigol.
Gyda staff brwdfrydig dros ben â phrofiad o berfformio yn y West End a thu hwnt yn eu dysgu, bydd ein cyrsiau yn eich galluogi i ddatblygu a thanategu eich gwybodaeth o ddisgyblaethau perfformio lluosog, gan eich helpu i ddod yn unigolyn hyderus, creadigol, yn barod i gymryd eich lle ar flaen y llwyfan.
Gyda chysylltiadau agos â sefydliadau clodfawr fel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Stiwdio Actorion Ifanc, a PCYDDS, mae ein cyrsiau’n darparu cyfleoedd heb eu hail i berfformwyr uchelgeisiol a phobl ddawnus tu ôl i’r llenni.
Felly os ydych chi’n hoffi’r syniad o gwrs tra ymarferol a chreadigol sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau perfformio, dewch i ymweld â ni yn ein diwrnod agored, cwblhewch gais a chymerwch eich camau cyntaf tuag at eich dyfodol.
Pam astudio Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion?
Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Lansio gyrfaoedd actio yn LA
- Ennill cystadlaethau dawns o fri
- Ennill credydau darlledu’r BBC a S4C
Newyddion cysylltiedig...
Daeth myfyrwyr Coleg Ceredigion â disgleirdeb comedïaidd yn fyw wrth iddyn nhw berfformio eu fersiwn o Young Frankenstein gan Mel Brooks mewn cynhyrchiad diweddar a berfformiwyd yn Theatr y Castell, Aberystwyth.
Ar 19 Mai aeth grŵp o fyfyrwyr o’r cwrs celfyddydau perfformio a chynhyrchu i wobrau It’s My Shout yn ICC Cymru, Casnewydd lle enillodd nhw y wobr Cast Ensemble Gorau.
Camodd myfyrwyr celfyddydau perfformio a chynhyrchu Coleg Sir Gâr i’r llwyfan yr wythnos ddiwethaf gyda’u perfformiad o ‘The Curious Incident of the Dog in the Night-Time’ yn theatr y Ffwrnes.