Skip page header and navigation
group of winner holding award

Ar 19 Mai aeth grŵp o fyfyrwyr o’r cwrs celfyddydau perfformio a chynhyrchu i wobrau It’s My Shout yn ICC Cymru, Casnewydd lle enillodd nhw y wobr Cast  Ensemble Gorau. 

Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio gydag It’s My Shout, sefydliad arbenigol sy’n dod o hyd i dalent newydd a’i datblygu ar gyfer y diwydiant ffilm mewn partneriaeth â’i bartneriaid darlledu, BBC ac S4C. 

Mae gwobrau It’s My Shout yn noson i ddathlu’r sêr newydd, y rheiny sy’n gwthio ffiniau adrodd straeon a gwneud Cymru’n bwerdy o ran gwneud ffilmiau. Roedd categorïau gwobrau yn amrywio o’r Cyfarwyddwr Gorau i’r Actor Gorau, i arddangos y gorau oll o dalent Cymru.

Nid enwebeion yn unig oedd yn bresennol, roedd rhai wynebau cyfarwydd i’w gweld hefyd; y cyflwynydd radio o Gymru Huw Stephens, yr actores Melanie Walters, y sêr TikTok Cymreig Ieuan Cooke, Dhean Saur a’r efeilliaid Polson.

Enillodd y myfyrwyr canlynol y cast Ensemble Gorau:  Holly-May Davies, Connor Stevens, Steffan Cai Francis, Heidi Press a Max Murphy.

Dywedodd Max; “Roedd hi’n anrhydedd ennill y wobr hon a chael y cyfle hwn, yn enwedig gan ein bod ni mor ifanc.

“Roedd hyd yn oed bod yn rhan o hyn yn brofiad anhygoel felly roedd ennill y wobr yn fonws enfawr.” 

Yna cafodd y grŵp driniaeth VIP yn dilyn eu buddugoliaeth, gyda diodydd am ddim mewn ystafell werdd, lluniau proffesiynol a charped coch.  Dyma’r cyfle perffaith i’r myfyrwyr rwydweithio â phobl greadigol eraill yn y diwydiant.

Mae rhai o fyfyrwyr y grŵp yn symud ymlaen i brifysgolion ac ysgolion drama ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.  Holly-May Davies, Ysgol Actio Bryste yn astudio BA Actio Sgrin.  Heidi Press, PCYDDS Y Drindod Caerfyrddin yn astudio BA Actio.  Max Murphy, Italia Conti yn astudio BA Theatr Gerdd

Gwyliwch y darn buddugol yma:  https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0gttmtg/its-my-shout-short-films-from-wales-2023-3-live-after-death 

winners laughing whilst getting interviewed
two students in front of backdrop

Rhannwch yr eitem newyddion hon