Skip page header and navigation

Daeth myfyrwyr Coleg Ceredigion â disgleirdeb comedïaidd yn fyw wrth iddyn nhw berfformio eu fersiwn o Young Frankenstein gan Mel Brooks mewn cynhyrchiad diweddar a berfformiwyd yn Theatr y Castell, Aberystwyth. 

Ffilm gomedi glasurol yw Young Frankenstein a gyfarwyddwyd gan Mel Brooks a wnaeth hefyd ei hysgrifennu ar y cyd â Gene Wilder, a chwaraeodd ran Dr Frederick Frankenstein yn y ffilm wreiddiol a ryddhawyd yn 1974.

Dyma’r tro cyntaf i Goleg Ceredigion ddod â ffilm gomedi mor annwyl i gyfrwng newydd fel drama lwyfan neu sioe gerdd a’i llwyfannu y tu allan i’r coleg fel Young Frankenstein The Musical. 

“Roedd yn brosiect delfrydol ar gyfer y criw o berfformwyr ifanc creadigol, rhagweithiol, ac eithriadol o dalentog o dan fy nghyfarwyddyd,” meddai Carl Lewis, darlithydd celfyddydau perfformio yng Ngholeg Ceredigion.  “O ystyried ei fod yn cynnwys theatr gerdd a bod angen meistrolaeth ar y tair disgyblaeth theatrig, roedd yn gyfle i herio a gwella sgiliau perfformio pob dysgwr.  O ganlyniad, roedd angen i’r holl gyfranogwyr ragori wrth gyflwyno perfformiad cyfareddol, heriol a hynod ddifyr.”

Mae addasu ffilm i gyfrwng gwahanol yn aml yn cyflwyno heriau a chyfleoedd creadigol ac mae Young Frankenstein yn rhoi deunydd ffynhonnell cyfoethog i’w addasu, gan alluogi dysgwyr i ailddehongli cymeriadau, golygfeydd a themâu mewn ffyrdd newydd a llawn dychymyg. 

Mae theatr gerdd yn cynnwys coreograffi, dawns, comedi corfforol fel hiwmor slapstic, cwympiadau comedi a symudiadau gorliwiedig gydag ystod a dyfnder emosiynol er mwyn cyfleu cymhlethdod y cymeriadau.

Ychwanegodd Carl Lewis, darlithydd celfyddydau perfformio yng Ngholeg Ceredigion a chyfarwyddwr ei gynhyrchiad Young Frankenstein:

“O’r eiliad y cododd y llenni, roedd yn amlwg bod y myfyrwyr wedi dod â byd Young Frankenstein The Musical yn fyw gyda’u perfformiad gwefreiddiol.

“Un o’r agweddau mwyaf trawiadol ar berfformiad y myfyrwyr oedd eu hamseru comedïaidd gwych gyda phob ergyd yn glanio’n berffaith, gan wneud i’r gynulleidfa ruo chwerthin. 

Roedd yn amlwg bod y myfyrwyr wedi meistroli’r grefft o gyflwyno comedi, gan blethu hiwmor yn ddi-dor i bob rhyngweithiad ac eitem gerddorol.

“Roedd yr eitemau cerddorol yn uchafbwynt i’r perfformiad, gyda’r myfyrwyr yn cyflwyno lleisiau pwerus a oedd yn atseinio drwy’r theatr. 

“O rwtîns tap cymhleth i ddawnsiau ensemble bywiog, fe wnaethant weithredu pob symudiad yn fanwl gywir a gosgeiddig, gan ychwanegu haen ychwanegol o gyffro ac egni i’r cynhyrchiad.

“Ar y cyfan, roedd perfformiad y myfyrwyr yn ‘Young Frankenstein: The Musical’ yn ddim byd llai na syfrdanol.  Roedd eu hymroddiad, eu dawn, a’u brwdfrydedd yn disgleirio’n ddisglair ar y llwyfan, gan adael y gynulleidfa wedi’i diddanu a’i chyfareddu’n llwyr.  Roedd yn noson wirioneddol gofiadwy o theatr a ddangosodd botensial anhygoel y perfformwyr ifanc hyn.”

Dywedodd Sophie Banning, myfyrwraig celfyddydau perfformio lefel tri yng Ngholeg Ceredigion:  “Wnes i erioed ddychmygu y gallwn deimlo mor fyw ar y llwyfan.

“Roedd bod yn rhan o Young Frankenstein The Musical yn daith wefreiddiol o’r dechrau i’r diwedd.

“Roedd yr oriau di-ri o ymarferion, sesiynau cynhesu lleisiol yn hwyr y nos, ac ymarferion dawnsio trwyadl i gyd yn werth chweil yn y diwedd. 

“Wrth i’r noson agoriadol agosáu, roeddwn i’n nerfus ond yn llawn cyffro, ond unwaith i’r goleuadau bylu a’r gerddoriaeth ddechrau, diflanodd yr holl deimladau hynny. 

“Roedd fel camu i fyd gwahanol, lle gallwn ymgolli’n llwyr yn y cymeriad a gollwng gafael ar unrhyw swildod. 

“Roedd pob perfformiad yn wefr, ac roedd gweld ymateb y gynulleidfa yn fy llenwi ag ymdeimlad annisgrifiadwy o lawenydd a chyflawniad. Mae bod yn rhan o’r cynhyrchiad hwn wedi bod yn drawsnewidiol, a byddaf yn trysori’r atgofion a’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd yn ystod y daith hudol hon am flynyddoedd i ddod.”

Dyn a fenyw yn actio
Tair pobol yn actio ar y llwyfan gyda golau coch

Rhannwch yr eitem newyddion hon