Skip page header and navigation
group of performing art students on stage

Camodd myfyrwyr celfyddydau perfformio a chynhyrchu Coleg Sir Gâr i’r llwyfan yr wythnos ddiwethaf gyda’u perfformiad o ‘The Curious Incident of the Dog in the Night-Time’ yn theatr y Ffwrnes.

Mae’r ddrama, gan Simon Stevens, wedi’i haddasu o’r nofel gan Mark Haddon, yn adrodd hanes yr athrylith fathemategol Christopher Boone, 15 oed, sy’n cael trafferth delio â synau a straenau bywyd bob dydd. Mae’n ymchwilio i ladd ci ei gymydog ac wrth wneud hynny yn cael antur o hunan-ddarganfod.

I baratoi ar gyfer y sioe, fe groesawodd yr adran fyfyrwyr awtistig a thîm ADY (anghenion dysgu ychwanegol) yn y Graig i siarad â’r myfyrwyr am awtistiaeth. Roedd cael cyngor am y sgript yn golygu bod yr actorion yn gallu portreadu Christopher a’i deulu mewn ffordd realistig ar y llwyfan.

Hefyd, fe gododd y myfyrwyr celfyddydau perfformio a chynhyrchu dros £150 ar gyfer y clwb Neuro D yn y Graig trwy gynnal raffl yn ystod egwyliau’r sioe. 

Dywedodd Tayla Cadwell a oedd yn chwarae rhan Judy, mam Christopher: “Roeddwn i wrth fy modd, roedd hwn yn gyfle gwych i allu perfformio mewn theatr.

“Syrthiais mewn cariad â’r cymeriad a dechrau meddwl fel hi.

“Roeddwn i wastad wedi meddwl amdana i fy hun fel actor mwy  comedïaidd a llai difrifol ond mae chwarae’r rôl hon wedi fy natblygu’n fawr.

“Mae gallu defnyddio emosiwn yn fy actio wedi ychwanegu set sgiliau arall i mi.”

Dywedodd Isla Gordeen a oedd yn chwarae rhan Mrs Shears:  “Fe wnaeth dysgu’r codiadau i ddarlunio dychymyg y cymeriad Christopher  adeiladu stamina’n wirioneddol ar y llwyfan ac roedd yn brofiad anhygoel.”

Dywedodd Suneil Browes, oedd yn chwarae rhan Ed, tad Christopher:  “Mae Ed yn gymeriad amyneddgar a gofalgar iawn sy’n gwneud popeth dros ei fab ond mae’n gwylltio’n gyflym hefyd. 

“O safbwynt actio mae’n gallu mynd o fod yn grac iawn i edifarhau ar unwaith, felly roedd ei chwarae yn her ond gwnes i drin y perfformiad trwy ei ddychmygu fel dau berson gwahanol.“

 Mae bod yn rhan o’r cynhyrchiad hwn hefyd wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o’r gymuned awtistig a’r heriau dyddiol sy’n eu hwynebu.”

Tra bod y perfformwyr ar y llwyfan, dan y chwyddwydr, mae’r criw cefn llwyfan yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn disgleirio. Y tîm hwn sy’n sicrhau bod yr holl ddarnau symudol yn dod at ei gilydd ar gyfer sioeau didrafferth. 

Cymerodd y myfyrwyr y tu ôl i’r llenni rolau fel; rheolwr llwyfan, (Mia Evans) rheolwr llwyfan cynorthwyol, (Maya Ibboston) cynllunio sain/rheolwr llwyfan cynorthwyol, (Lucy Haines) a dirprwy reolwr llwyfan dan hyfforddiant a goruchwyliwr propiau (Wybie Watkins-Conde).

I lawer o’r cast, The Curious Incident of the Dog in the Night-Time oedd eu perfformiad olaf gyda Choleg Sir Gâr. Mae rhai myfyrwyr lefel tri wedi llwyddo i ennill lleoedd yn y prifysgolion a’r ysgolion drama canlynol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. 

Joshua De-Gruchy, East 15 yn astudio Diploma Sylfaen mewn Actio. Max Bebb Murphy, Italia Conti yn astudio BA Theatr Gerdd. Suneil Browes, Athrofa Celfyddydau Perfformio Lerpwl (LIPA) yn astudio  BA Actio.  Heidi Press, PCYDDS Y Drindod Caerfyrddin yn astudio BA Actio. Holly-May Davies, Ysgol Actio Bryste yn astudio BA Actio Sgrin.

two performing art students on stage
group of performing art students on stage

Rhannwch yr eitem newyddion hon