Astudio adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Ydych chi’n berson ymarferol, yn chwilio am gwrs gyda digon o gyfleoedd dysgu ymarferol? A fyddech chi’n mwynhau gyrfa lle gallwch weld canlyniadau eich gwaith caled bob dydd? P’un a ydych am ddysgu crefft, yn dyheu am fod yn rheolwr safle neu’n breuddwydio am ddechrau eich busnes eich hun, yna mae astudio cwrs adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn fan gwych i osod sylfaen.
Mae amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau adeiladu ar gael, ynghyd ag ystod helaeth o gyrsiau byr sy’n benodol i’r diwydiant, felly gallwch ddewis llwybr sydd fwyaf addas i’ch diddordebau chi.
Pan fyddwch chi’n astudio cwrs adeiladu gyda ni, bydd mynediad gennych i amgylchedd dysgu modern, eang, gydag offer a chyfleusterau safon y diwydiant. Cewch eich arwain gan staff addysgu sydd â chyfoeth o brofiad yn y diwydiant ac sy’n ymroddedig i wireddu eich potensial llawn. Cyfunir dysgu yn yr ystafell ddosbarth â phrofiad ymarferol i sicrhau y byddwch nid yn unig yn deall yr agweddau damcaniaethol ond hefyd yn ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr sy’n uniongyrchol berthnasol i senarios byd go iawn.
Felly, os ydych chi’n barod am yrfa werth chweil, yn llawn cyfleoedd amrywiol a photensial ar gyfer twf, dewch i ymweld â’n cyfleusterau ar ddiwrnod agored, llenwch ffurflen gais a gadewch i ni eich helpu i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer eich dyfodol.
Pam astudio Adeiladu gyda ni?
Past Students

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Redeg eu busnesau eu hunain yn y sector a rhoi yn ôl drwy gynnig lleoliadau i brentisiaid.
- Ennill rolau proffesiynol yn y diwydiant fel rheolwyr prosiectau, syrfewyr a thechnegwyr.
- Astudiaeth bellach gan symud ymlaen i Addysg Bellach a hefyd i astudio ar lefel Gradd yn y brifysgol yn ogystal â sicrhau prentisiaethau mewn crefftau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.
Newyddion Perthnasol...
Mae Ben wedi bod yn ddysgwr ymroddgar a gweithgar trwy gydol ei addysg gwaith saer. Gwnaeth dysgu yn y cartref roi profiad dysgu unigryw ac ymarferol iddo, a gwnaeth gwaith coed gyda’i dad feithrin ei gariad dros grefftwaith.

Cafodd prentisiaid Gwaith Saer ac Asiedydd o Gampws Aberteifi Coleg Ceredigion eu gwahodd i arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad Arddangos prentisiaeth CITB (Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu) a gynhaliwyd yn y Senedd yn ddiweddar fel rhan o Wythnos Brentisiaethau.

Coleg Sir Gâr’s construction team hosted the Welsh heat of a bricklaying competition which was organised by the Guild of Bricklayers.