Prentisiaid Coleg Ceredigion yn arddangos sgiliau mewn digwyddiad diwydiant
Cafodd prentisiaid Gwaith Saer ac Asiedydd o Gampws Aberteifi Coleg Ceredigion eu gwahodd i arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad Arddangos prentisiaeth CITB (Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu) a gynhaliwyd yn y Senedd yn ddiweddar fel rhan o Wythnos Brentisiaethau.
Fel rhan o ddathlu llwyddiant prentisiaethau, gofynnwyd i’n tri phrentis, Steffan Thomas, Osian James, a Daniel Morgans a oedd i gyd wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Skillbuild, World Skills y DU yn Milton Keynes ym mis Tachwedd 2023, i ddod a siarad am eu profiadau a sut roedd yn teimlo i gymryd rhan yn y fath gystadleuaeth ganmoladwy. Aeth y Darlithydd Gwaith Saer Rhodri Morris a Phennaeth Campws Aberteifi Huw Thomas, yn gwmni iddynt.
Yn ystod digwyddiad y Senedd, dangosodd y myfyrwyr weithgareddau roedden nhw wedi’u meistroli ar gyfer y cystadlaethau Skillbuild, ond hefyd herion nhw aelodau’r Senedd i adeiladu Bwydwr Adar yn ôl meini prawf penodol, ac yn sicr taniodd hyn ochr gystadleuol Aelodau’r Senedd.
Yn ystod y digwyddiad cafodd Steffan Thomas ac Osian James eu cydnabod am eu cyflawniad neilltuol o dderbyn medal Aur yng nghystadleuaeth Skillbuild, Worldskill y DU.
Meddai Huw Thomas, Pennaeth Adran Campws Aberteifi: “Mae wedi bod yn fraint aruthrol i ni fel coleg gael ein gwahodd i’r Senedd heddiw a bod yn rhan o’r digwyddiad Arddangos CITB hwn. Rydyn ni’n ffodus i gael cymaint o brentisiaid dawnus ar draws ein holl alwedigaethau ac i gael cysylltiadau mor gryf â busnes lleol. Roedd y digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd prentisiaethau a sut mae’n cynnig dull mor wych o gyfuno gwaith go iawn gyda hyfforddiant ac astudio ar gyfer gyrfa benodol.
Os oes diddordeb gennych mewn astudio adeiladu yng Ngholeg Ceredigion, gellir gweld mwy o wybodaeth yma.