Myfyrwyr Gosod Brics yn fuddugol gartre wrth i’r coleg gynnal cystadleuaeth Urdd y Gosodwyr Brics

Croesawodd tîm adeiladu Coleg Sir Gâr rownd Cymru o gystadleuaeth gosod brics a drefnwyd gan Urdd y Gosodwyr Brics.
Cynhaliwyd cystadleuaeth iau a hŷn i gynnwys cystadleuwyr newydd a chystadleuwyr mwy profiadol. Rhoddwyd lluniad technegol iddynt o gynllun gosod brics yr oedd rhaid iddynt adeiladu i safonau proffesiynol o fewn amser penodol.
Ymhlith y colegau oedd yn cymryd rhan roedd Coleg Gwent, Coleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC), Caerdydd a’r Fro, Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Benfro a Choleg Gŵyr Abertawe.
Enillodd myfyriwr Coleg Sir Gâr Joshua Pritchard y safle cyntaf yn y gystadleuaeth Iau ac enillodd myfyriwr Coleg Ceredigion Tomos Edwards y safle cyntaf yn y categori Hŷn.
Roedd y beirniaid yn cynnwys sawl cynrychiolydd o Urdd y Gosodwyr Brics, gan gynnwys Steve Barlow y prif feirniad a’r llywydd Bill Bowman.


Cafodd y digwyddiad hwn ei gefnogi hefyd gan y diwydiant adeiladu a wnaeth ddarparu deunyddiau a gwobrau ar gyfer cystadleuwyr gyda chwmni Wienerberger Ltd yn darparu’r brics, Waters a Morris yn cyflenwi’r mortar, a Cyfle a Towy Works yn rhoi’r offer.
Meddai Craig Chesby, dirprwy bennaeth adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedden ni wrth ein bodd yn cael ein gwahodd i gynnal cystadleuaeth Urdd y Gosodwyr Brics yn ein canolfan adeiladu.
“Rwy’n ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth a gafwyd gan bawb oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad o aelodau’r urdd, cyflenwyr, tiwtoriaid, cyflogwyr, technegwyr, cystadleuwyr a phawb arall sy’n gwneud y mathau yma o ddigwyddiadau’n bosibl ar gyfer talentau’r dyfodol o fewn ein diwydiant.
“Roedd yn wych i weld cymaint o gystadleuwyr yn cymryd rhan a chymaint o osodwyr brics newydd yn ymuno a gweithio yn y grefft.
“Mae gosod brics yn grefft hynod fedrus sy’n gofyn am fanylrwydd, arbenigedd technegol a galluoedd datrys problemau a gafodd eu profi gan y gystadleuaeth. Mae eu gwaith nid yn unig yn drwm yn gorfforol ond mae hefyd yn gofyn am lefel ddwys o grefftwaith, gan eu gwneud yn hanfodol i’r diwydiant adeiladu.”
Mae Urdd y Gosodwyr Brics yn gymdeithas a ffurfiwyd yn 1932 i hyrwyddo a chynnal y safonau crefftwaith uchaf mewn bricwaith.
