Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr peirianneg a chyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr wedi cymryd rhan mewn ymweliad addysgol tramor â Chroatia ble ymwelon nhw â’r gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn ne-ddwyrain Ewrop.

Cafodd myfyrwyr y cyfle i ymweld â chystadleuaeth genedlaethol WorldSkills Croatia lle gwnaethon nhw brofi amrywiol arferion peirianneg a chyfrifiadura yn cael eu cyflawni mewn amgylchedd proffesiynol a chystadleuol, a dysgon nhw sut caiff y sgiliau ansawdd-uchel hyn eu gwerthfawrogi’n fyd-eang.

Roedd y daith wyth-diwrnod yn cynnwys tri diwrnod a dreuliwyd yn Zagreb a phedwar diwrnod yn Opatija, gan ddarparu cyfuniad cytbwys o weithgareddau addysgol a diwylliannol.  

Pwrpas yr ymweliad oedd ysbrydoli myfyrwyr a meithrin eu hyder i ddangos iddynt gwerth sgiliau galwedigaethol ansawdd-uchel er mwyn eu helpu i anelu’n bellach yn eu haddysg a’u dewisiadau gyrfaol.

Cymeron nhw ran hefyd mewn gweithgareddau ymarferol yn ymwneud â pheirianneg a chyfrifiadura ble roeddent yn gallu siarad â gweithwyr proffesiynol diwydiant.

Hefyd cafodd y myfyrwyr y cyfle i archwilio’r gwahaniaethau diwylliannol rhwng Croatia a Chymru. Aethon nhw am dro o gwmpas filas hanesyddol Opatija a phromenâd Lungomare yn ogystal â thaith gerdded o gwmpas canol Zagreb, a oedd yn cynnwys tirnodau megis Sgwâr Ban Jelačić, Eglwys Gadeiriol Zagreb, ac ardal yr hen dref ar y bryn. 

Ariannwyd yr ymweliad gan Gynllun Turing sef rhaglen fyd-eang y DU ar gyfer astudio, gweithio a byw dramor, sy’n cynnig cyfleoedd unwaith-mewn-oes ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr.

Meddai Joshua Brown, myfyriwr peirianneg fecanyddol: “Roedd y daith yn arbennig, mwynheais i bob un eiliad ohoni ac yn bendant mae wedi rhoi blas am deithio i mi.

“Roedd y golygfeydd a’r bensaernïaeth yn hyfryd a chawson ni gyfle i weld peirianwyr CNC ar waith mewn cystadleuaeth fyw.

“Roedd yn wych treulio amser o ansawdd gyda’n myfyrwyr ni ein hunain, samplu seigiau lleol a dysgu am ddiwylliant arall.

“Mae’r profiad heb os wedi newid rhai o’r myfyrwyr mwy nerfus neu swil, gallwch weld yn ddiamau eu bod llawer yn fwy hyderus yn eu hunain yn dod nôl.”

Meddai darlithydd peirianneg Coleg Sir Gâr, Karl Hilton: “Gwnaeth arsylwi’r gystadleuaeth sgiliau genedlaethol yn Zagreb roi cipolwg i ddysgwyr ar y lefelau sgil a safonau sydd eu hangen i gystadlu ar lefel uchel.

“Fe wnaeth rhyngweithio â myfyrwyr Croataidd, gweithwyr proffesiynol a chyfranogwyr yn y gystadleuaeth ddarparu cyfleoedd rhwydweithio, gan arwain o bosibl atynt yn cystadlu mewn cystadlaethau yn y dyfodol.

“Mae treulio amser yn Zagreb a hefyd tref arfordirol Opatija wedi helpu’r dysgwyr i werthfawrogi’r amrywiaeth ddiwylliannol o fewn Croatia, gan wella eu gallu i addasu a’u sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol.

“Bydd hyn, gobeithio, yn eu hysbrydoli i wella eu cymwyseddau eu hunain a’u gyrru i ymdrechu at gyflawni rhagoriaeth.”  

Myfyrwyr o dan baner WorldSkills tu allan yr adeilad
Myfyrwyr gan Heneb

Rhannwch yr eitem newyddion hon