Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Ysgol Gelf Caerfyrddin gyhoeddi Gwaddol, arddangosfa arbennig sy’n rhan o Ŵyl Ffoto Cymru eleni. 

Bydd yr arddangosfa hon, sy’n tynnu sylw at y doniau eithriadol a feithrinwyd trwy gwrs Ffotograffiaeth enwog yr ysgol, yn agor gyda golwg breifat ddydd Iau, 10 Hydref 2024, rhwng 17:30 a 19:30 yn Oriel Henry, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HY.

Ers bron i hanner can mlynedd, mae Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi bod yn gonglfaen i ddarpar ffotograffwyr, gan ddarparu addysg eithriadol mewn adrodd straeon gweledol ers i’w chwrs Ffotograffiaeth ddechrau ym 1978. 

Mae Gwaddol yn dod â darnau gwaith 27 o gyn-fyfyrwyr nodedig ynghyd, gan arddangos eu teithiau amrywiol ac unigryw fel ffotograffwyr a phobl greadigol.

Mae’r arddangosfa hon nid yn unig yn dathlu llwyddiannau’r unigolion dawnus hyn ond hefyd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf o ffotograffwyr a phobl greadigol.  Fel rhan o fenter ehangach a lansiwyd yn 2023 i goffáu ac archifo llwyddiannau graddedigion Caerfyrddin, mae Gwaddol yn dyst i rym trawsnewidiol addysg gelf.

Yn ogystal â’r arddangosfa, mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi y bydd cyhoeddiad arbennig yn cael ei ryddhau cyn hir, a fydd yn dogfennu ac yn dathlu llwyddiannau ei chyn-fyfyrwyr.  Bydd yr adnodd hwn yn dogfennu ac yn dathlu llwyddiannau cyn-fyfyrwyr, gan gynnig adnodd parhaol i ysbrydoli myfyrwyr y presennol a’r dyfodol.

Mae’r ysgol yn eich gwahodd yn gynnes i ymuno â’r golwg breifat ar 10fed Hydref a phrofi’r gwaith ysbrydoledig sy’n parhau i ddeillio o Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Legacy exhibition poster with details of event and image

Rhannwch yr eitem newyddion hon