Sgiliau creadigol myfyrwyr yn cael eu cydnabod gan Gymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli mewn cystadleuaeth a ysbrydolwyd gan y sir
Roedd y profiad yn rhoi boddhad mawr i mi gan fy mod yn gallu cael adborth ar fy ngwaith a chwrdd â chyd-ffotograffwyr. Kim Fulcher

Mae Cymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr Coleg Sir Gâr mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth a arweiniodd at y gymdeithas yn cyflwyno pum gwobr yn y coleg.
‘Ein Sir Gâr Ni’ oedd thema’r gystadleuaeth a oedd yn gofyn i gyfranogwyr gyflwyno ffotograffau sy’n ymgorffori’r sir.
Myfyrwraig Safon Uwch Chloe Lewis enillodd y safle cyntaf gyda Grace Owen yn ail a Menna Bowen yn drydydd. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i Kim Fulcher a Daniel Jones.
Mae Cymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli wedi bod yn sylweddol gefnogol yn ddiweddar wrth annog a chynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhannu’r un antur esthetig.




Maen nhw wedi gwahodd myfyrwyr i’w sesiynau wythnosol, wedi darparu beirniad allanol ar gyfer y gystadleuaeth, wedi cynnig mynediad i sgyrsiau arbenigol ar-lein ac wedi ariannu argraffu’r lluniau buddugol a thaleb anrheg Amazon.
Meddai Kim Fulcher, myfyrwraig ffotograffiaeth Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr; “Roedd y profiad yn rhoi boddhad mawr i mi gan fy mod yn gallu cael adborth ar fy ngwaith a chwrdd â chyd-ffotograffwyr.
“Roedd yn braf iawn rhannu ac arddangos fy ngwaith ac mae’n anrhydedd cael fy newis i fod yn rhan ohono.”
Meddai’r myfyriwr Daniel Jones: “Roedd yn brofiad gwych ac fe wnaeth fy ngalluogi i wthio fy hun a magu hyder yn fy ngwaith.”
Ychwanegodd Simon Thomas, darlithydd ffotograffiaeth Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae cydweithio â Chymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli wedi bod yn brofiad ffantastig i’n holl fyfyrwyr ffotograffiaeth Safon Uwch.
“Mae hyn wedi tanio dawn greadigol go iawn sy’n amlwg heddiw yn yr enillwyr a’r rheiny ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth “Ein Sir Gâr Ni” y gymdeithas.