Skip page header and navigation

Roedd Caitlin Trussler yn fam ifanc wnaeth adael yr ysgol heb gymwysterau TGAU, ond mae hi wedi dathlu graddio gyda gradd BA anrhydedd mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol.  

Roedd hi bob amser wedi anelu at wella ei hunan ac roedd hi bob amser wedi gweithio yn y sector gofal, y gymuned ac mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn ac ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, ond gwnaeth digwyddiad arwyddocaol yn ei bywyd ei sbarduno i wneud penderfyniad sy’n newid bywyd.

Yn anffodus, yn dilyn colli ei mam, sylweddolodd Caitlin fod bywyd yn rhy fyr a dyma oedd y catalydd a wnaeth ei harwain yn y diwedd i weithio ar ddatblygu ei hun a gwneud cais am y cwrs. 

Meddai Caitlin Trussler: “Yn wir, dyma’r peth gorau gwnes i erioed. 

“Gwnaeth i mi sylweddoli beth roeddwn i am wneud, cefnogi unigolion sydd wir angen help yn eu bywydau yn gyffredinol.

“Dysgais am wahanol agweddau ar ofal cymdeithasol gan gynnwys troseddeg a’r gyfraith a sut mae’n berthnasol i gymdeithas yn gyffredinol.”

Mae Caitlin bellach yn gweithio fel gweithiwr cymorth tai gyda chynllun Housing First lle mae’n cefnogi pobl sy’n dod allan o’r carchar i ddod o hyd i gartref, cael mynediad i gymorth ariannol a’u cyfeirio at unrhyw sefydliadau arbenigol angenrheidiol.

Mae hi wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar i fod yn rheolwr prosiect o fewn Housing First ac mae wrth ei bodd gyda hyn.

Ychwanegodd Caitlin Trussler: “Mae’r cwrs hwn wedi cynyddu fy hyder wrth sylweddoli fy mod yn gallu ei wneud. 

“Rwyf wedi darganfod pwy ydw i a gyda phrofiadau bywyd y tu cefn i mi, helpodd fi i ddeall beth y gall eraill fod yn mynd drwy, gan fy helpu hyd yn oed yn fwy ar y cwrs.”

Caitlin sitting by a desk looking at the camera

Mae’r cwrs hwn wedi cynyddu fy hyder wrth sylweddoli fy mod yn gallu ei wneud. 

Rhannwch yr eitem newyddion hon