Skip page header and navigation
A group of students in red competition hoodies standing together, smiling

Mae myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn barod i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol sydd ar ddod WorldSkills y DU a SkillsBuild, a gynhelir yr wythnos hon ym Manceinion a Milton Keynes.

Enillodd yr holl fyfyrwyr sy’n cymryd rhan eu lle trwy ragori mewn rowndiau rhagbrofol rhanbarthol, gan symud ymlaen i gystadlu ar lefel genedlaethol. 

Nod WorldSkills y DU, elusen annibynnol sy’n partneru â chyflogwyr, sefydliadau addysgol, a chyrff y llywodraeth, yw codi safonau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol, gan gefnogi llwyddiant pobl ifanc a chyflogwyr.

Mae’r cystadlaethau hyn wedi’u cynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant ac maen nhw’n helpu pobl ifanc i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol trwy wella eu sgiliau technegol a chyflogadwyedd.

Bydd lleoliadau ar draws Manceinion Fwyaf yn cynnal y rowndiau terfynol cenedlaethol, a gynhelir rhwng 18 a 22 Tachwedd. 

Eleni, rhoddir sylw i 49 o feysydd sgiliau yn amrywio o roboteg ddiwydiannol i goginio, dylunio gemau 3D a thrin gwallt. 

Mae cystadlaethau WorldSkills y DU yn broses saith mis, sy’n cynnwys rhagbrofion rhanbarthol a hyfforddiant dwys, gan ddiweddu gyda’r rowndiau terfynol cenedlaethol, lle bydd enillwyr y rownd derfynol a’r enillwyr medalau yn cael eu dathlu yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion.

Yn cynrychioli Coleg Sir Gâr yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU mae Lilly Kendall ac Evanna Lewis, sy’n cystadlu mewn Sgiliau Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â Jac Jones, a fydd yn cystadlu mewn CAD Peirianneg Fecanyddol.

O Goleg Ceredigion, bydd Elara Jones a Leo Jones yn arddangos eu doniau mewn Therapi Harddwch, tra bod Caitlin Meredith a Freya Inman yn cystadlu yn y Celfyddydau Coginiol.  Alisha Davies, Shannon Brown, a Gwenllian Jones fydd yn cynrychioli’r coleg yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty.

Yn ogystal, bydd Daniel Morgans o Goleg Ceredigion, ynghyd ag Ifan Thomas a Benjamin Jenkins o Goleg Sir Gâr, yn cystadlu mewn Gwaith Saer yn y gystadleuaeth SkillBuild.

Ychwanegodd Vanessa Cashmore, Is-bennaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Rydym mor falch o’n myfyrwyr a’r ymroddiad llwyr y maen nhw yn ei roi i ddatblygu eu sgiliau i’r lefelau uchaf.“

“Ni fyddai’r cyfleoedd hyn yn bosibl heb gymorth ein staff a’r arbenigedd a’r amser y maen nhw’n ei roi i’n dysgwyr i’w helpu i gyrraedd hyd eithaf eu potensial.”

students in competition hoodies

Rhannwch yr eitem newyddion hon