Myfyrwyr celf a dylunio Coleg Ceredigion yn dysgu lliwio ffabrig yn gynaliadwy gyda’r artist Zoe Quick
Yn gynharach y tymor hwn, cafodd myfyrwyr UAL a Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Ceredigion gyfle unigryw i gymryd rhan mewn dosbarth meistr ymarferol gyda’r artist Zoe Quick. A hithau’n adnabyddus am ei gwaith lliwio ffabrig yn naturiol, rhannodd Zoe ei harbenigedd mewn arferion tecstil cynaliadwy, gan roi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr o weithio gyda deunyddiau eco-gyfeillgar.
Canolbwyntiodd y gweithdy ar ddefnyddio adnoddau naturiol i greu llifynnau ffabrig cynaliadwy, hardd. I baratoi ar gyfer y sesiwn bu myfyrwyr yn chwilota am ddeunyddiau lleol fel mes, blodau ffenigl a mwyar duon.
Yna defnyddiwyd y deunyddiau hyn mewn proses o’r enw “bwndelu brethyn” (cloth bundling) lle caiff y ffabrig eu lapio gyda’r sylwedd planhigol a’i roi trwy broses ferwi er mwyn rhyddhau’r llifynnau naturiol.
Gydag arweiniad Zoe, archwiliodd y myfyrwyr y gelfyddyd o liwio’n naturiol tra’n dysgu am ei fuddion amgylcheddol. Nid yn unig gwnaethon nhw ddarganfod yr arlliwiau bywiog a phriddlyd y gellir eu cael trwy ddulliau cynaliadwy, ond hefyd llwyddwyd i ddwysáu eu dealltwriaeth o sut i gynnwys arferion eco-gyfeillgar yn eu prosiectau yn y dyfodol.
Roedd y gweithdy yn llwyddiant, gyda myfyrwyr yn cynhyrchu ffabrigau syfrdanol, wedi’u lliwio’n naturiol a oedd yn amlygu’r prydferthwch o weithio gyda deunyddiau naturiol. Mae’r canlyniadau’n dangos lliwiau a gweadau gwefreiddiol a grëwyd yn ystod y dosbarth meistr, yn ogystal â chipolygon o’r broses.
Rhoddodd dosbarth meistr Zoe sgiliau ymarferol i’r myfyrwyr, ac anogaeth i feddwl yn feirniadol ynghylch cynaladwyedd yn eu harferion artistig eu hunain. Gadawodd y myfyrwyr wedi’u hysbrydoli, gan gofio pwysigrwydd ystyried effaith eu gwaith ar yr amgylchedd a sut y gallant gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy yn y diwydiannau creadigol.