Skip page header and navigation

Pleser o’r mwyaf gan Goleg Ceredigion yw cyhoeddi bod tair o’n myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch wedi sicrhau lleoedd yn rhaglen “Back to Basics” WSUK - am gyfle i gael eu gwahodd i Garfan Gynderfynol Prydain  – cyflawniad anhygoel sy’n amlygu eu hymroddiad a’u dawn. Mae hyn yn dilyn eu llwyddiant yn rownd derfynol World Skills y DU dros y 12 mis diwethaf pan enillon nhw 2 Fedal Efydd a Medal Arian.

Mae Katy Law a Shannon Brown o’n campws Aberteifi, ynghyd ag Ella Clemments o’n campws Aberystwyth, yn cynrychioli 60% nodedig o Garfan Gynderfynol Prydain WSUK ar gyfer Gwasanaeth Bwyty, gan dynnu sylw at y doniau neilltuol a feithrinir yng Ngholeg Ceredigion. 

Mae cam nesaf eu taith yn digwydd yn ystod Cam 3, a gynhelir yng Ngholeg Llandrillo ar ddechrau mis Mawrth. Dilynir y digwyddiad pedwar-diwrnod hwn gan gystadleuaeth fawreddog Salon Culinaire Llundain yn y Sioe Lletygarwch, Bwyty ac Arlwyo (HRC) ar Fawrth 17eg 2025. Bydd HRC, prif ddigwyddiad y DU ar gyfer lletygarwch a gwasanaeth bwyd, yn rhedeg o 17eg–19eg Mawrth yng nghanolfan ExCeL Llundain fel rhan o Wythnos Bwyd, Diod a Lletygarwch.

Yn dilyn cystadleuaeth Llundain, bydd aelodau’r garfan yn darganfod os byddant yn symud ymlaen i Gam 4 y broses ddethol.

I baratoi, mae’r myfyrwyr ar hyn o bryd yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi ddwys chwe-wythnos, sy’n arwain at y digwyddiad dethol carfan “Back to Basics” yng Ngogledd Cymru.

Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr talentog hyn am eu cyflawniad anhygoel – sy’n brawf o’u gwaith caled a’r gefnogaeth wych gan y tîm yng Ngholeg Ceredigion. Pob lwc wrth iddynt barhau ar eu taith i lwyddiant!

Rhannwch yr eitem newyddion hon