Myfyriwr Safon Uwch yn rhedeg hanner marathon ym Munich
Gwnaeth Owain Gravell, myfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr gwblhau hanner marathon yn ddiweddar ym Munich, Yr Almaen.
Mae Owain wedi marcio carreg filltir yn ei yrfa athletaidd trwy gwblhau ei hanner marathon swyddogol cyntaf ym Munich, Yr Almaen. Er ei fod wedi cwblhau hanner marathonau mewn sesiynau ymarfer, hwn oedd ei dro cyntaf yn cymryd rhan mewn digwyddiad swyddogol.
Nid oedd y penderfyniad i redeg ym Munich yn seiliedig ar ffafriaeth yn unig, esboniodd Owain: “Yn y DU, mae rhaid i chi fod yn 17 neu’n hŷn i gymryd rhan mewn hanner marathon, ond yn yr Almaen, y terfyn oedran yw 16. Gan na fydda i’n 17 tan fis Mawrth nesaf, Munich oedd yr opsiwn perffaith.”
Fe wnaeth Owain a’i dad ymrwymo i raglen ymarfer wyth-wythnos, a oedd yn alinio’n berffaith â gwyliau’r haf, gan roi digon o amser iddynt i ganolbwyntio ar rediadau hwy ac adeiladu dygnwch ar gyfer y ras. Meddai Owain: “Roedd yr ymarfer yn dda iawn, roedd yn caniatáu i ni ddechrau rhedeg pan oedd yr amser gennym i ymroi’n llwyr iddo.”
Ar ddiwrnod y ras, er gwaetha’r nerfau anorfod, nod Owain oedd cwblhau’r marathon dan awr a phedwar deg munud. Gwnaeth ei ymroddiad dalu ffordd gydag amser gorffen nodedig o awr, tri deg saith munud a phedwar deg un eiliad - canlyniad roedd wrth ei fodd ag e: “Rwy’n wirioneddol hapus gyda sut aeth pethau,” meddai Owain gyda balchder.
Er nad oedd yr hanner marathon cyntaf hwn i elusen, mae’r profiad wedi tanio brwdfrydedd ar gyfer rasys yn y dyfodol. Gyda Hanner marathon Caerdydd eisoes ar y calendr ar gyfer 2025 a Hanner marathon Abertawe o fewn ei olwg, mae’n glir mai wedi dechrau’n unig mae taith redeg Owain.