Skip page header and navigation

Penderfynodd myfyriwr Coleg Ceredigion Joshua Taylorson ailsefyll ei arholiadau TGAU mewn mathemateg a Saesneg er mwyn helpu datblygu ei gyfleoedd gyrfaol o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Roedd Joshua, sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn cludo cleifion, angen graddau C mewn mathemateg a Saesneg i’w helpu i symud ymlaen fel technegydd meddygol brys (EMT) a gweithio ochr yn ochr â pharafeddygon.

Astudiodd ar-lein mewn dosbarth nos gyda Choleg Ceredigion o gyfforddusrwydd ei gartref ei hun ac yn ôl tiwtoriaid gweithiodd yn hynod o galed, gan gyflwyno swm sylweddol o waith yn ogystal â gofyn am gyngor ac arweiniad rheolaidd i wella ei radd.

Meddai Joshua Taylorson: “Chwaraeodd fy nhiwtoriaid Tony a Nick ran enfawr o ran fy helpu i gyflawni fy ngradd C, sef darparu llawer o adborth a chyngor i helpu gwella fy ngwaith.

“Rwyf wedi ennill y radd C roeddwn i eisiau, felly unwaith y daw swyddi ar gael, bydda i’n gallu symud ymlaen o fewn y Gwasanaeth Ambiwlans fel EMT. Gyda help fy mathemateg a Saesneg, mae rhai drysau wedi agor i mi.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau