Skip page header and navigation
 Shannon yn dal ei medal efydd gyda WorldSkills UK yn gefndir iddi

Enillodd Shannon Brown fedal efydd mewn gwasanaethau bwyty yn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU eleni.

Mae’n astudio gwasanaeth bwyd a choginio proffesiynol ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion gyda gwasanaeth bwyd yn frwdfrydedd personol ganddi. 

Roedd y gystadleuaeth ddeuddydd hon yn herio cyfranogwyr i brofi’r sgiliau uwch sydd eu hangen ar y diwydiant gwasanaeth bwyty. 

Roedd yn cynnwys gwasanaeth ciniawa cain, gwasanaeth te prynhawn, gwneud coctels, coffi arbenigol, cerfio eog, cerfio pîn-afal a flambé pîn-afal.

Dywedodd Shannon Brown:  “Doeddwn i ddim yn disgwyl cael medal ac roeddwn wedi fy synnu’n fawr ond yn llawn cyffro fy mod wedi mynd ymhellach na’r disgwyl. 

“Pan welais fy enw ar y sgrin fawr ar y llwyfan doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth. 

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud; cefais gymaint o sioc ond roedd yn deimlad anhygoel cerdded ar y llwyfan a derbyn y fedal. 

“Y peth cyntaf wnes i pan gefais y fedal oedd edrych am fy nhiwtor Huw a fy nheulu yn y dorf.

“O gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rwyf wedi sylweddoli fy mod wedi teimlo’n fwy hyderus gyda fy sgiliau nag o’r blaen. Sylweddolais hefyd y gallaf wneud pethau gwych mewn bywyd a gallaf fynd yn bell ac os byddaf yn dilyn fy mreuddwydion, gallaf lwyddo yn y dyfodol. 

“Hoffwn hefyd ehangu fy ngorwelion drwy archwilio’r byd lletygarwch a chael profiad lle bynnag y bydd fy sgiliau yn fy nhywys.

“Ar ôl cwblhau fy nghwrs lefel tri yn Aberteifi, rwy’n bwriadu teithio a chwilio am unrhyw waith neu brofiadau er mwyn symud ymlaen yn y diwydiant anhygoel hwn y mae Coleg Ceredigion wedi fy nghyflwyno iddo.” 

Rhannwch yr eitem newyddion hon