Skip page header and navigation
 Students gather on a soccer field, showcasing teamwork and excitement during their football tournament.

Yn ddiweddar cymerodd grŵp o ddysgwyr ILS (Sgiliau Byw’n Annibynnol) ran mewn twrnamaint pêl-droed a drefnwyd gan Golegau Cymru.  Nod y digwyddiad, a oedd yn cefnogi’r ymgyrch ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’, oedd annog gwaith tîm, hyder a thwf personol.

Roedd nod y diwrnod yn canolbwyntio ar sawl agwedd allweddol: magu hyder, annog gwaith tîm, codi hunan-barch, a hybu ffitrwydd corfforol. Roedd hefyd yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr gwrdd â phobl newydd ac ymgymryd â heriau newydd, gan eu helpu i weld manteision cymryd rhan mewn cystadlaethau. 

Pwysleisiodd Helen Edwards, Pennaeth ILS, Dechrau Newydd, a Sylfaen, pa mor hanfodol yw’r profiadau hyn i’r dysgwyr, gan ddweud, “Mae iechyd a lles a chymuned yn bileri yng nghwricwlwm ILS. 

“Mae hi mor bwysig i ddysgwyr ILS gymryd rhan mewn twrnameintiau a chwarae fel tîm.  Mae gweld dysgwyr yn ddigon hyderus i chwarae mewn twrnameintiau ac annog ei gilydd yn gamp anhygoel.  Diolch, Kayleigh, am roi’r cyfle hwn i’n dysgwyr.”

Nid oedd y digwyddiad hwn yn ymwneud â chwarae pêl-droed yn unig; roedd yn gam hanfodol yn natblygiad y dysgwyr, gan eu helpu i fagu hyder a phrofiad trwy waith tîm.  Wrth i’r myfyrwyr fwynhau eu hunain ar y cae, daeth eu brwdfrydedd dros y gêm yn amlwg, ac mae nifer ohonynt yn awyddus i barhau â’u taith drwy gymryd rhan mewn mwy o gemau cyfeillgar gyda cholegau eraill yn y dyfodol.

Tynnodd Kayleigh Brading, Cydlynydd Lles Actif, sylw at effaith y twrnamaint:  “Mae’r gystadleuaeth hon yn pontio’r bwlch rhwng cyfranogiad a chwaraeon cystadleuol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol, gan ddarparu amgylchedd hwyliog a diogel. 

“Mae’n datgelu ochr o’r dysgwyr nad ydyn ni’n ei gweld yn aml ym mywyd bob dydd y coleg, gan gynnig cyfle i rai gymryd rhan yn eu twrnamaint pêl-droed cyntaf un.  Cafodd ein dysgwyr amser anhygoel, chwaraeon nhw bêl-droed gwych, a gallwn i ddim bod yn fwy balch.”

Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, gyda’r holl fyfyrwyr wedi mwynhau’r profiad yn fawr.  Mae cynlluniau eisoes ar waith i drefnu gemau cyfeillgar gyda cholegau eraill, gan roi cyfleoedd pellach i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder.

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn parhau i fod yn rhan hanfodol o les a thwf cyffredinol dysgwyr.  Helpodd y twrnamaint hwn i gadarnhau gwerthoedd gwaith tîm a dyfalbarhad, gan gynnig ffyrdd newydd i’r myfyrwyr ddisgleirio ar y cae ac oddi arno.

 Students gather on a soccer field, showcasing teamwork and excitement during their football tournament.

Rhannwch yr eitem newyddion hon