Darlithydd Coleg Ceredigion yn Ennill Teitl Pen-cogydd Cenedlaethol Cymru

Mae Sam Everton, darlithydd yng Ngholeg Ceredigion, wedi’i enwi yn Ben-cogydd Cenedlaethol Cymru 2025, gan nodi cyflawniad neilltuol yn y byd coginiol.
Sam oedd yr ail berson yn unig mewn hanes i ennill y teitl clodfawr hwn yn olynol, wedi iddo gipio teitl Pen-cogydd Iau Cymru flwyddyn yn unig yn ôl.
Meddai: Rwy’n hollol wrth fy modd i fod wedi ennill teitl Pen-cogydd Cenedlaethol Cymru eleni! Mae bod yr ail berson yn unig erioed i ennill yn olynol, ar ôl cipio’r teitl Iau y llynedd a nawr y teitl Hŷn, yn hollol afreal. Mae wedi bod yn daith anhygoel, yn dathlu bwyd Cymru a’r cynhwysion syfrdanol sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at y rownd nesaf a gynhelir yn rhyngwladol!”
Fel rhan o’i wobr, bydd Sam yn awr yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth goginiol ryngwladol sydd i ddod, gan arddangos treftadaeth fwyd gyfoethog y wlad ar y llwyfan byd-eang.
Mae Coleg Ceredigion yn ymfalchïo yng nghyflawniad Sam ac yn parhau i gefnogi a meithrin talentau coginiol yng Nghymru.