Cwrs Celf yn dathlu 60 o flynyddoedd ac yn galw ar gyn-diwtoriad a chyn-fyfyrwyr i ddod ynghyd ar gyfer antur artistig arall
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr yn gwahodd cyn-fyfyrwyr y cwrs sylfaen mewn celf a dylunio a chyn-ddarlithwyr i gymryd rhan yn nathliadau penblwydd y cwrs yn 60 oed.
Mae’r dathliad yn dechrau gydag arddangosfa o waith gan ddarlithwyr cyfredol a gobeithir y bydd cyn-ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr yn dod ynghyd a chydweithio i wneud ac arddangos mwy o waith gyda’i gilydd.
Cynlluniwyd y cwrs sylfaen mewn celf a dylunio i helpu myfyrwyr wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa arbenigedd i ddewis ar gyfer eu hymarfer celfyddydol a/neu‘u harbenigedd prifysgol.
Bydd myfyrwyr sylfaen yn defnyddio’r arbenigedd o’r cyrsiau gradd a geir yn Ysgol Gelf Caerfyrddin megis cerflunio, celfyddyd gain, ffasiwn, gemwaith, graffeg a ffotograffiaeth.
Meddai Imogen Mills, cyfarwyddwr rhaglen ar gyfer sylfaen mewn celf a dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr: “Bydd unrhyw un sydd wedi bod o’r blaen ar gwrs sylfaen, yn dweud wrthych mai’r flwyddyn honno oedd blwyddyn orau eu dysgu oherwydd mae’n daith ddynamig, greadigol ac archwiliol.
“Mae sylfaen yn gwrs bywiog, dynamig sy’n annog myfyrwyr i feddwl yn ddargyfeiriol, gan arloesi ar draws disgyblaethau, ac arbrofi’n eang gyda deunyddiau a phrosesau.
“Wedi’i churadu gan ddarlithydd yr ysgol gelf, Rhodri Rees, mae’r arddangosfa gyfredol hon yn nodi dechrau blwyddyn o ddathlu, sy’n cychwyn yma gydag arddangosfa o waith darlithwyr cyfredol. Caiff amrywiaeth yr ymagweddau, dulliau meddwl a gwneud sydd yma eu hadlewyrchu yn y gweithdai helaeth a gyflwynir i fyfyrwyr Sylfaen. Fel darlithwyr, mae gafael yn y cyfle i ailymweld â’n hymarfer yn hanfodol.
“Dros y flwyddyn nesaf, rydyn ni am gydweithio i ymgorffori gwerthoedd ac ethos cwrs sylfaen Ysgol Gelf Caerfyrddin ac rydyn ni’n awyddus i groesawu pobl i gysylltu â ni.”
Gall cyn-ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr y cwrs sylfaen mewn celf a dylunio sydd am fod yn rhan o hyn, gysylltu ag Imogen Mills yn yr ysgol gelf trwy e-bostio fad60@colegsirgar.ac.uk.
Mae croeso i chi gynnwys unrhyw eiliadau cofiadwy gwnaethoch chi eu rhannu a’r flwyddyn (blynyddoedd) gwnaethoch chi fynychu.