Skip page header and navigation
Laura bending with a head of a donkey coming in close

Dechreuodd Laura Tucker archwilio ei diddordeb mewn gweithio gydag anifeiliaid trwy astudio tystysgrif ar-lein addysg uwch yng Ngholeg Sir Gâr.

Ar ôl cwblhau’r dystysgrif ar-lein, cafodd Laura ei hannog i symud ymlaen yn ei hastudiaethau ac mae hi bellach yn astudio gradd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid ar gampws Pibwrlwyd y coleg.

Roedd profiad Laura o’r cwrs ar-lein yn bositif ac roedd yr hyblygrwydd roedd yn ei gynnig iddi, yn siwtio’i hamserlen ddysgu. Meddai: “Roedd fy mhrofiad o’r cwrs yn wych ac roedd cefnogaeth tiwtoriaid hefyd mor ddefnyddiol.

“Cafodd canllawiau’r aseiniad eu gosod allan yn eglur ac roedden nhw’n glir iawn ynghylch yr hyn roedden nhw’n ei ddisgwyl ar gyfer pob aseiniad. Roedden nhw’n llawer o hwyl ac yn ddiddorol i’w cwblhau. 

“Roedd y gwersi i mi yn hawdd i’w deall ac yn ogystal rhoddwyd y dyddiadau roedd yr aseiniadau’n ddyledus ar ddechrau’r cwrs, felly mae’n haws i gynllunio.”

Mae Laura bellach wedi symud i ddysgu wyneb yn wyneb yng nghanolfan anifeiliaid a cheffylau’r coleg ym Mhibwrlwyd. “Cefais fy annog i astudio ymhellach ar ôl yr amser anhygoel cefais i ar y cwrs gwyddor anifeiliaid lefel pedwar ar-lein,” meddai Laura. “Rhaid i mi ddweud bod yr holl diwtoriaid rwyf wedi cael wedi bod yn hynod o gymwynasgar, gwybodus a wir eisiau i chi lwyddo ar y cwrs. Yr hyn wnaeth fy synnu oedd pa mor fanwl oedd y gwersi, gan fy mod wedi cymryd rhai cyrsiau ar-lein cyn hyn, ac nid oeddent mor addysgiadol â’r cwrs hwn. Fe wnes i fwynhau sawl rhan o’r cwrs; Rwy’n meddwl mai fy ffefryn arbennig oedd y modiwl bioleg forol opsiynol sydd wedi fy annog i ymgymryd â mwy o waith ymchwil ar fioleg forol yn fy amser rhydd.” 

Ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol yw sicrhau cyflogaeth o fewn meysydd achub bywyd gwyllt neu les anifeiliaid. 

Rhannwch yr eitem newyddion hon