Skip page header and navigation
Cerith in his red ambassador hoodie standing behind the Coleg Ceredigion sign

Mae Cerith Evans yn fyfyriwr gwasanaethau cyhoeddus yng Ngholeg Ceredigion sydd â dyheadau i ddod yn PCSO yn ei dref enedigol sef Tregaron.

Cafodd y dyn ifanc 18 oed ei ddewis fel llysgennad myfyrwyr yn ddiweddar sy’n golygu cynrychioli Coleg Ceredigion a chwrs gwasanaethau cyhoeddus y coleg mewn digwyddiadau.

Cychwynnodd ei daith goleg gyda chwrs lefel un astudiaethau galwedigaethol lle cafodd flas ar y pynciau galwedigaethol yn y coleg, ac yna aeth ymlaen i gwrs lefel dau gan ddewis astudio gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai Cerith Evans: “Mwynheais i’r coleg yn fawr iawn achos rwy’n teimlo’n rhan o’r gymuned ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau.”

“Mae perthnasoedd da gen i gyda fy nhiwtoriaid ac mae’r staff yn cynnig cefnogaeth i mi pan wyf ei hangen, ac mae’r coleg yn cynnig darpariaeth i wella a chynnal fy lles.”

Mae Cerith eisoes yn gwirfoddoli’n helaeth yn y gymuned ac mae am rannu’r profiad hwn yn ei rôl fel llysgennad. “Rwy’n teimlo’n angerddol iawn ynghylch Tregaron,” meddai. “Rwy’n teimlo bod gen i’r sgiliau i wneud yr un peth ar gyfer fy nghymuned goleg megis cyfathrebu gyda phobl ifanc ac oedolion.”

Yn Nhregaron, mae Cerith yn aelod gweithredol sylweddol o lawer o grwpiau, gan gynnwys pwyllgor y carnifal a Rasys Trotian Tregaron. Hefyd mae’n stiward yng Ngŵyl Gerddoriaeth Gymraeg Tregaroc ac yn ymgymryd â dyletswyddau trefol fel cefnogi’r goleuadau Nadolig, Apêl y Pabi, rheoli traffig yn ystod digwyddiadau, mynd â phosteri a thaflenni o gwmpas y dref a chasglu sbwriel. 

Mae Cerith hefyd yn cysgodi’r heddlu lleol mewn digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned sy’n ategu ei ddyheadau i ddod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO).

“Des i i’r coleg y llynedd ac roeddwn i ychydig yn nerfus ond rwy’n teimlo bod fy hyder yn tyfu ac rwyf bellach yn gynrychiolydd dosbarth ar gyfer fy nosbarth gwasanaethau cyhoeddus.

“Helpodd fy nhiwtoriaid fi i baratoi ar gyfer fy nghyfweliad i ddod yn llysgennad coleg ac rwy’n meddwl roedd y broses gyfweld yn dda ar gyfer fy natblygiad a’m profiad.

“Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd a pherthnasoedd da gyda fy nghymheiriaid a’m tiwtoriaid ac rwyf wedi elwa llawer trwy fod yn fyfyriwr yng Ngholeg Ceredigion.

“Rwy’n gweithio’n rhan-amser gyda sefydliadau gwirfoddol er mwyn cynnal y gymuned a bydd fy rôl fel darpar PCSO yn rhoi cyfle i mi am yrfa ac ar yr un pryd aros yn fy nhref enedigol.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau