Skip page header and navigation
Delwedd o Angelina, myfyrwraig TGAU

Ar ôl colli dwy flynedd o ysgol oherwydd anawsterau iechyd meddwl, dychwelodd Angelina i addysg yng Ngholeg Sir Gâr a chwblhau ei TGAU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg yn llwyddiannus, gan ennill graddau A*, A*, a B.

Methodd Angelina flynyddoedd 10 ac 11 ar ôl i golli aelod agos o’r teulu effeithio ar ei hiechyd meddwl.  Fodd bynnag, erbyn mis Medi 2023, roedd hi’n teimlo’n barod i ddychwelyd a dilyn ei harholiadau TGAU craidd.  

Er ei bod yn nerfus ynghylch ailddechrau addysg, derbyniodd Angelina gefnogaeth aruthrol gan ei hathrawon a’r tîm lles, a helpodd hyn i wneud ei thrawsnewid yn ôl i ddysgu yn llawer llyfnach.  

Talodd ei hymroddiad ar ei ganfed, gan arwain at raddau anhygoel: A* mewn Mathemateg, A* mewn Gwyddoniaeth, a B mewn Saesneg. 

Nawr, mae Angelina wedi dechrau ei hastudiaethau Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr, gan astudio Busnes, y Cyfryngau a Ffotograffiaeth, ac mae’n llawn cyffro am yr hyn sydd o’i blaen.  

Gyda hyder newydd a brwdfrydedd dros ddysgu, mae hi’n ymrwymedig i ragori yn ei harholiadau Safon Uwch.  Mae ei gwytnwch a’i hymroddiad yn ysbrydoliaeth i eraill, gan ddangos gyda’r gefnogaeth a’r meddylfryd iawn ei bod yn bosibl goresgyn heriau. 

Wrth fyfyrio ar ei thaith, rhannodd Angelina:  “Roeddwn i’n nerfus ar y dechrau, ond roedd y gefnogaeth a’r arweiniad a gefais wedi fy helpu i gyflawni graddau anhygoel.  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at symud ymlaen gyda fy mhynciau Safon Uwch.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon