Skip page header and navigation

Microsoft Power Bi

  • Ar-Lein
5 Awr

Rhaglen Gwybodaeth Busnes yw Power BI Desktop gan Microsoft sy’n gadael i unigolion lwytho, trawsnewid, a delweddu data. Gall dysgwyr greu adroddiadau a dangosfyrddau rhyngweithiol yn eithaf hawdd, ac yn gyflym. Yn y cwrs ar-lein pum awr hwn, bydd dysgwyr yn dysgu rhai o hanfodion Power BI drwy fewngludo, trawsnewid, a delweddu’r data.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
5 Awr

£50 (Cyllid ReAct+ ar Gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys trosolwg o’r rhyngwyneb rhyme, mewngludo’r data, gosod enwau’r colofnau a thrawsnewid y data. Cwmpesir pynciau eraill hefyd yn y cwrs hwn gan gynnwys creu adroddiadau, rhagosodiadau yn ôl lefel addysg, rhagosodiadau yn ôl gwladwriaethau a chymhareb ‘defaulter’ a sleisio’r data.

Mae’r cwrs hwn wedi’i rannu’n adrannau hawdd eu trin, sy’n golygu bod pob dysgwr yn gwneud defnydd llawn o’r deunydd a gwmpesir. Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr ddefnyddio meddalwedd Microsoft Power BI yn hyderus.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddechrau gyda meddalwedd Microsoft Power BI.

Mae cwblhau’r cwrs Microsoft Power BI hwn yn gwella CVs dysgwyr, gan brofi bod gan y dysgwr y gallu i weithredu meddalwedd Microsoft Power BI i gyflawni ei brosiect. Mae hefyd yn dangos bod y dysgwr yn rhagweithiol ac yn ddyfeisgar.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.