Skip page header and navigation

Arbenigwr Microsoft Office - Excel

  • Ar-Lein
25 Awr

Ardystiad Microsoft Office Specialist (MOS) yw cymhwyster cyfrifiadurol enwocaf y byd ar gyfer profi sgiliau a galluoedd unigolyn yn rhaglenni Microsoft Office. Gall ennill ardystiad MOS helpu unigolion i gynyddu eu cynhyrchiant a’u gwerth trwy fod â gwell gwybodaeth am offer busnes hanfodol heddiw o fewn y pecyn Microsoft Office. Ar ôl ennill ardystiad MOS, mae dysgwyr yn cael mynediad ar unwaith i Dystysgrif a Thrawsgrifiad Digidol, yn ogystal â logo MOS i’w roi ar eu CVs a’u bathodynnau digidol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
25 Awr

£100 (Cyllid ReAct+ ar Gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yn cynnwys mewngludo data i lyfrau gwaith, fformatio taflenni gwaith a llyfrau gwaith, ffurfweddu cynnwys ar gyfer cydweithredu, fformatio celloedd ac ystodau a chrynhoi data yn weledol. Cwmpesir pynciau eraill hefyd gan gynnwys addasu tablau, hidlo a didoli data tablau, mewnosod cyfeirnodau, cyfrifo a thrawsnewid data a chreu, addasu a fformatio siartiau.

Bydd dysgwyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn yn cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Excel. Maen nhw’n arddangos i gyflogwyr eu bod yn gallu defnyddio’r meddalwedd ar safon uchel yn y diwydiant ac yn gallu dangos y defnydd o brif nodweddion Microsoft Excel ac yn gallu cwblhau tasgau ar eu pen eu hunain.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud eu hunain yn fwy amlwg yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni heddiw a chynyddu’r cyfleoedd gwaith y gallant ymgeisio amdanynt. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer staff o fewn sefydliad sydd am gynyddu eu cynhyrchiant a’u gwerth i’r busnes.

Mae hyfforddiant Microsoft Office Specialist a thystysgrif gwblhau yn cael eu parchu’n fawr mewn llawer o ddiwydiannau ac mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr ledled y byd. Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.