
Ardystiad Microsoft Office Specialist (MOS) yw cymhwyster cyfrifiadurol enwocaf y byd ar gyfer profi sgiliau a galluoedd unigolyn yn rhaglenni Microsoft Office. Gall ennill ardystiad MOS helpu unigolion i gynyddu eu cynhyrchiant a’u gwerth trwy fod â gwell gwybodaeth am offer busnes hanfodol heddiw o fewn y pecyn Microsoft Office. Ar ôl ennill ardystiad MOS, mae dysgwyr yn cael mynediad ar unwaith i Dystysgrif a Thrawsgrifiad Digidol, yn ogystal â logo MOS i’w roi ar eu CVs a’u bathodynnau digidol.
Manylion y cwrs
- Pellter
£100 (Cyllid ReAct+ ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yn cynnwys llenwi celloedd yn seiliedig ar ddata sy’n bodoli eisoes, fformatio a dilysu data, cymhwyso fformatio a hidlo amodol uwch a pherfformio gweithrediadau rhesymegol mewn fformiwlâu. Cwmpesir pynciau eraill hefyd gan gynnwys creu ac addasu macros syml, creu ac addasu siartiau uwch, creu ac addasu PivotTables a PivotCharts a pherfformio dadansoddi data.
Bydd dysgwyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn yn cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Excel. Maen nhw’n arddangos i gyflogwyr eu bod yn gallu defnyddio’r meddalwedd ar safon uchel yn y diwydiant ac yn gallu dangos y defnydd o nodweddion arbenigol Microsoft Excel ac yn gallu cwblhau tasgau ar eu pen eu hunain.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud eu hunain yn fwy amlwg yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni heddiw a chynyddu’r cyfleoedd gwaith y gallant ymgeisio amdanynt. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer staff o fewn sefydliad sydd am gynyddu eu cynhyrchiant a’u gwerth i’r busnes.
Mae hyfforddiant Microsoft Office Specialist a thystysgrif gwblhau yn cael eu parchu’n fawr mewn llawer o ddiwydiannau ac mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr ledled y byd. Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.