
Mae Gwybodeg Iechyd yn un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf yn y sector iechyd. Mae’n chwarae rhan allweddol wrth gasglu, storio, trefnu ac yn bwysicaf oll dadansoddi data er budd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Manylion y cwrs
- Pellter
Band Ffi (N) £495
Disgrifiad o'r Rhaglen
Ymdrinnir â phynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys hyrwyddo arfer da wrth drin gwybodaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, rheoli eich perfformiad eich hun mewn amgylchedd busnes, nodi gofynion gwybodaeth mewn cyd-destun iechyd, rheoli gwybodeg iechyd mewn lleoliadau gofal iechyd, egwyddorion rheoli gwybodaeth a chynhyrchu dogfennau a sgiliau cyfathrebu ar gyfer gweithio yn y sector iechyd. Mae nifer o unedau dewisol i chi ddewis o’u plith hefyd.
Mae Cymhwyso Rhif Lefel 2 wedi’i gynnwys yn ystod cyfnod sefydlu’r cymhwyster hwn.
Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith ar gyfer y rheiny sydd â rolau sy’n ymwneud â thrin a rheoli data a gwybodaeth electronig ac ar bapur, gan ddefnyddio TG a systemau llaw. Gallai hyn gynnwys rheoli cofnodion cleifion o ddydd i ddydd, dilysu a chodio data a dadansoddi, adrodd a defnyddio data i gefnogi ansawdd y wybodaeth.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i gwrs Tystysgrif Lefel 4 mewn Gwybodeg Iechyd.