
Mae Gwybodeg Iechyd yn un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf yn y sector iechyd. Mae’n chwarae rhan allweddol wrth gasglu, storio, trefnu ac yn bwysicaf oll dadansoddi data er budd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Manylion y cwrs
- Pellter
Band Ffi (N) £495
Disgrifiad o'r Rhaglen
Ymdrinnir â phynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys dadansoddi ac adrodd ar ddata a gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd a hyrwyddo arfer da wrth drin gwybodaeth mewn lleoliadau iechyd. Gyda modiwlau dewisol amrywiol sy’n cynnwys deall dwyieithrwydd yn y gwaith, cynllunio a rheoli prosiect, dadansoddiad ystadegol o setiau data, profi diogelwch systemau gwybodaeth, meddalwedd rheoli prosiectau, rheoli ansawdd cynnyrch a gwasanaethau digidol a llawer mwy.
Mae Cymhwyso Rhif Lefel 2 wedi’i gynnwys yn ystod cyfnod sefydlu’r cymhwyster hwn.
Ar hyn o bryd mae’r cymhwyster wedi’i alinio ar gyfer y rolau canlynol, fodd bynnag mae hyn yn cael ei adolygu ac efallai bydd modiwlau eraill yn cael eu hychwanegu er mwyn cynnwys llwybrau ychwanegol i’r rheiny sy’n dymuno symud ymlaen o Lefel 3. Mae’r pedwar llwybr gyrfa a fyddai’n elwa o’r cymhwyster hwn ar hyn o bryd yn cynnwys:
Technegydd Cymorth TGCh
Cynorthwyo i ddarparu cymorth TGCh. Mae’n cynnwys datrys galwadau am gymorth TG, perfformio gosodiadau, ffurfweddiadau, adleoli a dadgomisiynu caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol; canfod namau a chywiro problemau; hyrwyddo arfer da wrth ddefnyddio caledwedd a meddalwedd a diogelwch TG.
Dadansoddwr Prawf TGCh
Mae’n datblygu cynlluniau profi, sgriptiau, ac ati; Profi Systemau ac Integreiddiad (SIT), Profi Derbyniad Gweithredol (OAT), Profi Derbynioldeb i’r Defnyddiwr (UAT), Profi Atchweliad a Pherfformiad. Gallai hefyd gynnwys: profion ymarferol i feithrin arbenigedd rhaglen a sicrhau bod terfynau amser prosiect yn cael eu bodloni.
Dadansoddwr Gwybodaeth
Mae’n darparu cymorth dadansoddol i hwyluso gwneud penderfyniadau clinigol, datblygu gwasanaethau a rheoli perfformiad. Hwyluso ansawdd data; cyfathrebu’n effeithiol â budd-ddeiliaid; rhoi cyngor a chymorth a allai hefyd gynnwys darparu addysg a hyfforddiant i eraill.
Uwch Arbenigwr TG
Mae’n datblygu, cynnal a chefnogi systemau perthnasol ar gyfer Canolfan Gweithrediadau Cymorth Rhwydweithiau Mewnol yn eu maes eu hunain ac yn unol â manylebau a gofynion gweithredol. Mae tîm y Ganolfan Gweithrediadau Cymorth Rhwydweithiau Mewnol yn gyfrifol am ddarparu, monitro, adrodd ar ddata a’i gasglu.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa o fewn gwybodeg iechyd, un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf ym maes iechyd.