Skip page header and navigation

Iechyd, Diogelwch a Lles

stethoscope on laptop keyboard

Mae Gwybodeg Iechyd yn faes arloesol sydd ar groesffordd gofal iechyd a thechnoleg, yn ffocysu ar y defnydd effeithiol o ddata ac offer digidol i wella gofal cleifion a gwella canlyniadau gofal iechyd. Mae ein cyrsiau Gwybodeg Iechyd yn darparu addysg gadarn mewn rheoli a dehongli data iechyd, rhoi datrysiadau iechyd digidol ar waith, a llywio tirwedd gymhleth llywodraethiant gwybodaeth iechyd. Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n bwriadu cyfuno diddordeb brwd am ofal iechyd gyda sylfaen gref mewn sgiliau TG.

Pam astudio'r Gwybodeg Iechyd?

01
Dysgwch i ddefnyddio systemau cofnodion iechyd electronig (EHR) ar gyfer casglu, storio a rheoli data cleifion yn effeithlon a diogel, gan sicrhau cydymffurfio â rheoliadau preifatrwydd.
02
Datblygwch sgiliau dadansoddol i ddehongli data iechyd cymhleth, nodi tueddiadau, a chefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, gan wella canlyniadau clinigol ac effeithlonrwydd gweithredol.
03
Deallwch y safonau cyfreithiol a moesegol sy’n cyfeirio rheoli gwybodaeth iechyd, a’ch paratoi chi i drin data mewn modd cyfrifol mewn amrywiaeth o amgylcheddau gofal iechyd.