Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 4 Diagnosio, Profi ac Atgyweirio Cerbydau Trydan/Hybrid a'u Cydrannau (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu mewn cysylltiad agos ag arbenigwyr yn y diwydiant, gweithgynhyrchwyr cerbydau trydan, darparwyr hyfforddiant, yr awdurdod gweithredol iechyd a diogelwch a Chyngor Sgiliau Sector IMI. Dyma’r cymhwyster cyntaf o’i fath i fynd i’r afael â gweithio ar systemau a chydrannau cerbydau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid byw. Mae’r cymhwyster yn hanfodol i sicrhau iechyd a diogelwch unigolion sy’n gweithio ar gerbydau trydan/hybrid.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
2 Ddiwrnod

Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar gael)

Achrededig:
IMI logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

Learner must reside legally in Wales and be aged 19 years old or over.

In addition, individuals must be:

  • employed (including Agency and Zero-hours contracts) or

  • self-employed or

  • full-time carers (incl. non-paid)

There is no funding wage cap for this course.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys gwybodaeth am y peryglon sy’n gysylltiedig ag atgyweiriadau a wneir i gydrannau a systemau trydanol cerbydau foltedd uchel byw. Diben a nod y cymhwyster hwn yw rhoi’r lefel ofynnol o sgiliau a gwybodaeth i dechnegwyr sy’n gweithio ar gerbydau trydan/hybrid er mwyn gwneud gwaith atgyweirio’n ddiogel ar gydrannau a systemau trydanol cerbydau foltedd uchel byw.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer technegwyr sy’n cynnal a chadw ac yn atgyweirio systemau a chydrannau cerbydau trydan/hybrid foltedd uchel. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio ar gydrannau trydanol cerbydau foltedd uchel a systemau cysylltiedig byw.

Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb am unrhyw un sy’n trin trydan fel rhan o’r rôl.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr barhau gyda’u datblygiad proffesiynol trwy ymgymryd â chymhwyster arall.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.