Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 1 mewn Ymwybyddiaeth o Gerbydau Trydan/Hybrid (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Pibwrlwyd
  • Campws Aberteifi
1 Diwrnod

Bydd gan unigolion sy’n cwblhau’r cwrs hwn ddiddordeb mewn ennill y wybodaeth i weithio’n ddiogel yn y diwydiant adwerthu cerbydau modur wrth iddo barhau i weld cynnydd yn y cerbydau Trydan/Hybrid sy’n mynd i mewn i’r gweithle. Mae’r cwrs undydd wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad i unigolion i wybodaeth am arferion gwaith diogel, y peryglon o gwmpas pan yn agos i gerbydau Trydan/Hybrid a’r rhagofalon sy’n ofynnol i osgoi anaf posibl.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod

Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar gael)

Achrededig:
IMI logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

Yn ystod y cwrs byddwch yn cwmpasu:

  • Y mathau o gerbydau Trydan/Hybrid sydd ar gael.
  • Peryglon sy’n gysylltiedig â systemau trydanol ynni uchel cerbydau modur.
  • Gweithio’n ddiogel o gwmpas cerbydau Trydan/Hybrid gan gynnwys gwefru.

O ganlyniad, bydd y rheiny sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol sylweddol am weithio’n ddiogel o gwmpas cerbydau Trydan/Hybrid, ond nid eu cynnal a’u cadw.

Mae’r cymhwyster maint Dyfarniad hwn yn cynnig cyflwyniad i’r sector diwydiant arbenigol hwn a fydd, yn ogystal ag ategu eu cymwysterau a’u profiad presennol yn y diwydiant, yn galluogi unigolion i barhau i weithio’n ddiogel yn eu rôl.

Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb am unrhyw un sy’n trin trydan fel rhan o’r rôl.

Dyfarniad Lefel 2 IMI mewn Atgyweirio ac Ailosod System Cerbyd Trydan/Hybrid

Cyflwynir gwaharddiad ar werthu ceir a faniaupetrol a diesel yn unig newydd yn 2030. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen brys i fecanyddion ceir presennol uwchsgilio er mwyn sicrhau cynaladwyedd a chyflogaeth hir dymor.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.