Dyfarniad Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Ailosod System Cerbyd Trydan/Hybrid (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws Pibwrlwyd
- Campws Aberteifi
Mae’r cwrs hwn ar gyfer yr unigolyn sy’n bwriadu datblygu ei wybodaeth, a dysgu sut i atgyweirio ac ailosod systemau ar gerbyd Hybrid/Trydan.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn cynnwys dwy uned orfodol EV2.2 ac EV3. Mae EV2.2 yn cwmpasu’r holl sgiliau a gwybodaeth o Ddyfarniad Lefel 2 IMI mewn Cynnal a Chadw Arferol Cerbydau Trydan/Hybrid.
Mae gweithgareddau ac EV3 yn cwmpasu sgiliau mewn:
- Gweithio’n ddiogel ar gerbyd trydan/hybrid
- Defnyddio gwybodaeth i wneud y dasg
- Gwneud atgyweiriadau ar systemau trydanol ynni uchel
- Cofnodi gwybodaeth a gwneud argymhellion priodol
O ganlyniad, bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn y llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol a sgiliau sylweddol a’r gallu i dynnu ac ailosod cydrannau foltedd uchel cerbyd Trydan/Hybrid.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â diagnosio ac atgyweirio cerbydau hybrid a thrydan. Gallai hyn gynnwys technegwyr gwasanaethu ac atgyweirio, technegwyr diagnostig a thrydanwyr cerbydau modur.
Dyfarniad Lefel 4 IMI mewn Diagnosio, profi ac atgyweirio cerbydau trydan/hybrid a chydrannau.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.