
Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithgareddau Cynnal a Chadw Arferol Cerbydau Trydan/Hybrid
- Campws Pibwrlwyd
- Campws Aberteifi
Cynlluniwyd cynnwys y cymhwyster hwn i roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i’r dysgwyr i weithio’n ddiogel ar gerbydau Trydan/Hybrid tra’n cyflawni gweithgareddau cynnal a chadw ac atgyweirio arferol (nid cydrannau neu systemau foltedd). Gall hyn gynnwys cerbydau y gall fod difrod neu roedd difrod i’w system ynni uchel/trydanol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Yn ystod y cwrs byddwch yn cwmpasu:
- Cydrannau a gweithrediad system cerbyd trydan/hybrid
- Peryglon yn gysylltiedig â cherbydau trydan/hybrid
- Sut i leihau’r risgiau i chi’ch hun ac eraill wrth weithio ar gerbydau trydan/hybrid
- Paratoi’r cerbyd yn ddiogel wrth wneud gwaith cynnal a chadw arferol (NID cydrannau neu system foltedd uchel)
Mae’r cwrs hyfforddi deuddydd hwn yn addas ar gyfer technegwyr Cerbydau Modur cymwys Lefel 2 sy’n gweithio ar Gerbydau Hybrid/Trydan. Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb am unrhyw un sy’n trin trydan fel rhan o’r rôl.
Dyfarniad Lefel 3 IMI mewn Atgyweirio ac Ailosod System Cerbyd Trydan/Hybrid.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.