Skip page header and navigation

Y Ffowndri - Campfa Codi Pwysau

A group of students watching a young woman deadlift
Students training in the gym.

Mae gan y Ffowndri gwerth dros £60,000 o gyfarpar proffesiynol gan gynnwys mainc para-codi pŵer, chwech o setiau cystadlu Eleiko, wyth rhesel gyrcydu gyda mannau dipio a barbwysau ffrwydrol, a pheiriant tynnu ochrol, peiriant cebl trawsgroesi, setiau llawn o bwysau tegell a dymbelau, dros 30 o farbwysau hyd at 20kg a dros 6000kg o blatiau codi pwysau.

Wedi’i leoli ar gampws y Graig yn Llanelli, mae’r cyfleuster penigamp hwn, sydd wedi’i ariannu gan Chwaraeon Cymru, wedi cael ei drawsnewid o fod yn gampfa ysgol yn wreiddiol i fod yn swît codi pwysau safon broffesiynol gyda lloriau newydd ac arbenigol wedi’u hariannu gan y coleg.

Meddai Euros Evans, pennaeth yr academïau chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr, “Rydyn ni’n hapus iawn i fod yn gweithio gydag Academi Codi Pwysau Llanelli a’n holl bartneriaid eraill sydd wedi helpu gwneud cysyniad y Ffowndri yn realiti. “Rwyf wir yn gweld hwn fel prosiect cymunedol, sy’n denu’r rheiny sydd am ddefnyddio codi pwysau ar gyfer ffitrwydd neu wrth geisio llwyddiant mewn cystadlaethau.”

Cae chwarae 3G

Mae ein cae chwarae 3G yn gyfleuster gwych ar gyfer addysgu, hyfforddi a gemau. Mae’r sioc laddwyr tanlawr yn golygu y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pêl-droed a rygbi ill dau ac mae’n gyfleuster cymeradwy gan Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’r cyfleuster ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer addysgu neu gan yr Academïau Chwaraeon. Mae eisoes rhaglen brysur o sesiynau hyfforddi bob noson o’r wythnos lle mae ystod eang o sefydliadau partner yn llogi’r cae chwarae cyfan, neu rannau ohono ar gyfer eu hadrannau iau a hŷn.

Ar ddyddiau Sadwrn a Sul mae’r cae chwarae ar gael i’w logi ar gyfer gemau.

Am wybodaeth bellach ynghylch llogi’r cyfleuster hwn, cysylltwch â:

Jonathan.garcia@colegsirgar.ac.uk Ffôn: 01554 748147

Student in red sports kit playing playing football.
students running around cones on a sports pitch

Yr Efail - Swît Gwyddor Chwaraeon, Campfa a Neuadd Chwaraeon

Campfa

Mae ein Swît Ffitrwydd a osodwyd yn broffesiynol yn gyfleuster rhad ac am ddim sydd yn agored i fyfyrwyr, staff a staff ysgolion partner. Cynlluniwyd hi’n benodol i ddarparu ar gyfer y rheiny sydd yn defnyddio’r gampfa yn rheolaidd ac ar gyfer dechreuwyr sydd am gychwyn ar eu taith tuag at ffitrwydd. Mae’r swît yn cynnwys pwysau rhydd, peiriannau rhedeg a rhwyfo a thrawsymarfer, yn ogystal â pheiriannau ymarfer gwrthiant. Y cyfan oll sydd ei angen arnoch i ddatblygu eich ffitrwydd ac i dynhau eich cyhyrau.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich sesiwn gynefino cysylltwch â:

Jonathan.garcia@colegsirgar.ac.uk Ffôn: 01554 748147

Swît Gwyddor Chwaraeon 

Mae ein swît dadansoddi chwaraeon a’n hwb perfformiad yn cynnwys Wattbikes’ Brigbŵer, Dadansoddwr Màs y Corff, synwyryddion Smartspeed a dadansoddwr anadl-wrth-anadl VO2max. Mae’r cyfleusterau ar gael i ddysgwyr sy’n astudio chwaraeon yn ogystal ag aelodau’r academi chwaraeon.

Neuadd Chwaraeon

Mae ein neuadd chwaraeon yn ofod amlbwrpas ar gyfer llu o chwaraeon dan do. Yn ogystal â bod yn gartref i Academi Bêl-rwyd y Coleg, defnyddir y neuadd ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a chlybiau lles actif.

A student on an exercise bike.
A student training on a exercise bike.
Two female students playing netball. One marking the other as she aims to shoot the ball.