Skip page header and navigation

Introduction

Yn bresennol:
  • Mrs Maria Stedman (Cadeirydd)

  • Mr John Edge (Is-gadeirydd)

  • Mr Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS)

  • Mr John Williams (Staff CC)

  • Dr Andrew Cornish (Pennaeth)

Yn gwasanaethu:
  • Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)

  • Mrs Catrin Llwyd (Cyfieithydd)

Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod. Cychwynnodd cyfarfod y Bwrdd am 15:33.

 

 

Eitem agenda 

Prif bwyntiau trafod

1

Llywodraethu’r Cyfarfod

 
 

23/22/1.1

Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ychwanegol at y rheiny oedd eisoes gan y Clerc.

 

23/22/1.2

Cymeradwyo cofnodion ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod diwethaf: 5ed Hydref 2023

CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Iau 5ed Hydref 2023 fel cofnod cywir.

 

23/22/1.3

Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad am y sefyllfa gyda’r ymsuddiant ar Gampws Aberteifi.  NODWYD:

  • Mae’r Coleg bron â bod mewn sefyllfa i ddechrau gwaith adferol gydag adroddiad i ddod cyn diwedd y mis gan y cwmni sy’n ymchwilio i’r ymsuddiant.  

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ar Strategaeth Tyfu Canolbarth Cymru.  NODWYD:

  • Nid oedd yn ymddangos bod Iechyd a Lles yn cael ei amlygu fel maes yr ymdriniwyd ag ef yn y strategaeth a gyhoeddwyd.  Mae ymchwilio pellach wedi cadarnhau bod Iechyd a Lles wedi’i alinio ar draws yr holl brosiectau a restrir.

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ar gyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Addysg ar gyfer Cyngor Ceredigion.  NODWYD:

  • Aeth y cyfarfod yn dda iawn gyda’r Coleg yn cyflwyno ei gwricwlwm i’r Cyngor.
  • Mae’r data ar ysgolion a ddisgwylir gan y Cyngor wedi’i dderbyn bellach ac mae cyfarfod arall i’w gynnal ym mis Ionawr 2024.

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad am y maes parcio ar Gampws Aberteifi sy’n cael ei fonitro gan Parking Eye.  NODWYD:

  • Roedd un o’r camerâu yn y maes parcio wedi methu am gyfnod o amser gan arwain at anfon rhai llythyrau dirwy mewn camgymeriad.  Mae hyn wedi’i ddatrys ers hynny ac mae’r camgymeriadau wedi’u tynnu’n ôl.
  • Nid yw trigolion lleol wedi codi unrhyw faterion yn dilyn rhoi’r cynllun Parking Eye ar waith.

2

Materion i Drafod a / neu Gymeradwyo

 
 

23/23/2.1

Materion ar agenda Bwrdd Coleg Sir Gâr ar 7fed Rhagfyr 2023 sy’n ymwneud â Choleg Ceredigion (Llafar).

Nododd y Pwyllgor fod yr eitemau canlynol ar yr agenda ar gyfer cyfarfod Bwrdd CSG a oedd yn ymwneud â Choleg Ceredigion, sef:

  • David Price sy’n bennaeth bellach ar y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP) yng Ngheredigion.
 

23/23/2.2

Materion eraill yn ymwneud â Choleg Ceredigion

Cwblhawyd yr arolwg ar gyfer RAAC ac nid oes RAAC o fewn adeiladau Coleg Ceredigion.

 

23/23/2.3

Cymeradwyo Datganiadau Ariannol 2022/23

  • Datganiadau Ariannol Coleg Ceredigion
  • Llythyr Cynrychiolaeth Coleg Ceredigion

Gwnaeth y Bwrdd DDERBYN ac YSTYRIED Datganiadau Ariannol Coleg Ceredigion a Llythyr Cynrychiolaeth Coleg Ceredigion gyda’r archwilwyr allanol, KPMG.  NODWYD:

  • Roedd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg wedi craffu ar y cyfrifon ac wedi’u pasio.
  • Roedd yr archwiliwyr allanol, KPMG, wedi craffu ar y Cyfrifon.  
  • Roedd y Coleg wedi derbyn adroddiad archwilio glân ar y cyfrifon heb unrhyw addasiadau.
  • Set gadarnhaol o gyfrifon.

CYTUNWYD i ARGYMELL CYMERADWYO, gan ystyried unrhyw sylwadau sylweddol pellach yng nghyfarfod Bwrdd CSG oedd i ddilyn.

3

Materion i’w Cymeradwyo*

 
 

23/24/3.1

Doedd dim materion i’w cymeradwyo.

4

Materion er Gwybodaeth**

 
 

23/25/4.1

Cadeirydd y Bwrdd - Diweddariad yn dilyn cyflwyno ar gyfer cydsynio gan Gyngor PCYDDS.

DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd ohebiaeth oddi wrth PCYDDS fod caniatâd wedi’i roi gan yr Aelod yng Nghyfarfod Cyngor PCYDDS ddydd Iau 23ain Tachwedd 2023 i benodi John Edge yn Gadeirydd Coleg Sir Gâr o 1af Ionawr 2024.   Fel Cadeirydd Coleg Sir Gâr, bydd John Edge hefyd yn dod yn Gadeirydd Coleg Ceredigion.

Cadarnhaodd PCYDDS hefyd benodiad John Edge fel aelod annibynnol o Gyngor PCYDDS.

Diolchodd y Bwrdd i John Edge am gymryd swydd y Cadeirydd mewn cyfnod y disgwylir iddo fod yn gyfnod o drawsnewid pwysig iawn i’r Coleg dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

23/25/4.2

Lleoliad ar gyfer Cyfarfod y Bwrdd ar ddydd Iau 7fed Mawrth 2024

NODODD y Bwrdd fod galluoedd hybrid addas bellach ar gael er mwyn caniatáu i’r rheiny sy’n mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ar-lein gymryd rhan yn effeithiol.  Cynhelir Cyfarfod nesaf y Bwrdd felly ddydd Iau 7fed Mawrth 2024  yn Adeilad IQ (PCYDDS) yn SA1.   Diolchwyd i Rebecca Doswell o PCYDDS am drefnu hyn.  Bydd hyn yn cynnig cyfle i’r Bwrdd brofi cyfleuster SA1 a chael ymdeimlad o’r  hyn y gallai’r datblygiad MIM ei gynnig i ddysgwyr gan gynnwys tynnu sylw at feysydd cydweithio rhwng PCYDDS a’r Coleg.

 

5

Unrhyw Fater Arall

 
 

23/26/5.1

Diolchodd y Bwrdd yn ddiffuant i Maria Stedman am fod yn Gadeirydd am yr wyth mlynedd ddiwethaf.

6

Datganiadau o Fuddiant

 
 

23/27/6.1

I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.

7

Dyddiad y cyfarfod nesaf

 
 

23/28/7.1

Dyddiad y cyfarfod nesaf 

Dydd Iau 7fed Mawrth 2024 yn Adeilad IQ (PCYDDS) yn SA1 i gychwyn am 15:30.

Daeth y cyfarfod i ben am 15:46.