Skip page header and navigation

Campws Aberystwyth

Campws Aberystwyth

Campws Aberystwyth

Campws Aberystwyth Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Creadigrwydd a Gofal ac mae wedi ei leoli mewn man gwyrdd ac agored sy’n edrych dros Fae Ceredigion.   Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant. 

Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal â Bwyty Blasus, sy’n gweini brecwast a chinio.  Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi’i staffio’n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Stiwdios Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Ymarfer a Pherfformiad a Swît Olygu a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol
  • Switiau Mac wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer y Cyfryngau Creadigol
  • Labordy trwsio Cyfrifiaduron a stiwdio Gyfrifiadura wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer TG
  • Labordy Gwyddoniaeth Modern ar gyfer Gofal
  • Y bwyty hyfforddi @Aberista ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo sy’n agored i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol

Mae’r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth.   Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu.    Dewch draw i ymweld â’n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.

Cyfeiriad Campws

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BP
01970 639700