Skip page header and navigation

Introduction

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn falch o fod yn ddarparwr dwyieithog o addysg bellach ac uwch, a dysgu seiliedig ar waith. Mae hyn yn golygu bod croeso i chi ddefnyddio eich Cymraeg ym mha bynnag ffordd y dewch i gysylltiad â’r coleg.

Rydym wedi ymrwymo i Safonau’r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018 ac sy’n amlinellu pa wasanaethau bydd y coleg yn eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r safonau hefyd yn nodi sut y bydd y coleg yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac unrhyw faterion sy’n ymwneud â pholisi neu strategaeth y Gymraeg.

Mae’r Gymraeg a’r safonau, y mae dyletswydd arnom i’w cadw, yn rhan o’n cyfrifoldebau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ehangach. Ar lefel strategol, arweinir y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau hyn gan y Pennaeth a’r Tîm Uwch Reolwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

Yr Is-bennaeth, Dysgwyr a Phartneriaethau a Chyfarwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y coleg yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Maent hefyd yn gyfrifol am greu a hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r gymuned ddysgu Cymraeg ac i ddefnyddio eu Cymraeg tra yn y gwaith, wrth astudio neu wrth ymweld â’r coleg. Gwneir y gwaith hwn drwy fonitro’r camau gweithredu a nodir yn Strategaeth y Gymraeg 2021 y Coleg a thrwy fonitro yng nghyfarfodydd yr Adran Weithredol, yr Uwch Tîm Arweinyddiaeth a chyfarfodydd sicrhau ansawdd.

Caiff cydymffurfiad trydydd parti â’r safonau ei oruchwylio gan y Tîm Uwch Reolwyr a thrwy systemau rheoli cyfadrannau a meysydd swyddogaethol y coleg.

Y Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd a dau Swyddog y Gymraeg y coleg sy’n gyfrifol am ddatblygiad cyflwyno cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac am hyrwyddo ethos dwyieithog ar holl safleoedd y coleg. Eir i’r afael â’r gwaith hwn drwy gysylltu’n agos â thimau rheoli cyfadrannau ynghylch cynllunio’r cwricwlwm, rhaglenni i gefnogi dysgwyr sy’n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dymuno dysgu a rhaglenni datblygiad staff i alluogi darlithwyr a staff meysydd swyddogaethol i addysgu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.

Yn ei ddogfen Cymraeg 2050 - Miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn amlinellu’r tair thema strategol sef:

  1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
  2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
  3. Creu amodau ffafriol - seilwaith a chyd-destun

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i gefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd i gyfathrebu a derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut y byddwn yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg er mwyn cyflawni hyn.

  • Rydym yn croesawu pob gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg ac os ysgrifennwch atom yn Gymraeg byddwn yn ymateb yn Gymraeg yn ddi-oed. Bydd unrhyw gyfathrebu â grwpiau o bobl a anfonir ar yr un pryd yn ddwyieithog a bydd y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal.

    Atebir ein prif linellau ffôn yn ddwyieithog, y Gymraeg bob amser yw’r iaith gyntaf gyda’r opsiwn o barhau â’r alwad trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth ddeialu rhifau estyniad unigol gallwch ddisgwyl cael eich cyfarch yn ddwyieithog. Os nad yw’r person yn gallu parhau yn Gymraeg, bydd yn cynnig eich trosglwyddo i rywun sy’n gallu darparu gwasanaeth yn Gymraeg hyd nes y cyrhaeddir pwynt lle mae’r pwnc yn un arbenigol ac ar adegau efallai mai dim ond aelod o’r tîm nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu hyn. Wrth gysylltu â Coleg Ceredigion gallwch ddisgwyl derbyn gwasanaeth Cymraeg trwyddi draw.

  • Gofynnir i bobl a wahoddir i fynychu cyfarfodydd a fyddent yn dymuno defnyddio’r Gymraeg ac os dymunant, oni bai y gellir cynnal y cyfarfod yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

    Mae croeso i bobl sy’n mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ddefnyddio’r Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael. Bydd unrhyw ddeunydd ysgrifenedig sy’n cael ei arddangos ar gael yn Gymraeg gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.

    Darperir cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Llywodraethol fel rhan o ymrwymiad y Coleg i ethos dwyieithog.

    Ar gyfer darlithoedd cyhoeddus a drefnir, bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer unrhyw sesiynau holi ac ateb. 

    Bydd gwahoddiadau i gyfarfodydd a digwyddiadau a drefnir gan y Coleg yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog.

  • Bydd dogfennau, ffurflenni, gwahoddiadau a chyhoeddiadau, os cânt eu cynnwys yn Safonau’r Gymraeg, yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog ac ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Bydd dogfennau a gynhyrchir fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn nodi eu bod ar gael yn yr iaith arall. Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael ar yr un pryd. Os oes gan ffurflen unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ymlaen llaw yna dylid ei chynnwys ymlaen llaw ar y fersiwn Gymraeg a Saesneg hefyd.

  • Mae’r gwefannau a’r sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog a chyhoeddir cynnwys Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Ymatebir yn Gymraeg yn ddi-oed i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

  • Bydd unrhyw arwyddion, gan gynnwys arwyddion dros dro, yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg wedi’i gosod fel y bydd yn debygol o gael ei darllen gyntaf.

  • Caiff arwyddion eu harddangos yn y derbynfeydd yn nodi bod croeso i bobl siarad Cymraeg. Mae ein gwasanaethau derbynfa ar gael yn Gymraeg ac mae ein staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo laniardau gyda’r eicon siarad oren fel eu bod yn hawdd eu hadnabod.

  • Asesir unrhyw grantiau a ddyfernir ar ba effeithiau, os o gwbl, y byddai dyfarnu’r grant yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Cyhoeddir pob gwahoddiad i dendro yn ddwyieithog a chroesewir cyflwyniadau tendro yn Gymraeg.

  • Nid yw hunaniaeth gorfforaethol y Coleg yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Mae polisïau newydd, wedi’u hadolygu neu eu diwygio, yn ystyried pa effaith y maent yn ei chael ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar gyfer peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Polisi’r Coleg yw bod pob swydd yn cael ei hysbysebu o leiaf fel ‘Cymraeg yn ddymunol’. Cedwir copïau o’r holl asesiadau a wneir gan y rheolwr perthnasol o ran y sgiliau Cymraeg sy’n ofynnol ar gyfer swyddi newydd a gwag. 

    Mae’r prosesau ymgeisio a recriwtio ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Mae unrhyw ddogfennaeth neu gyfarfodydd gyda staff sy’n ymwneud â chyflogaeth ar gael hefyd yn y naill iaith neu’r llall.

  • Mae’n ofynnol i’r holl staff gwblhau modiwl ar-lein sy’n nodi’r angen iddynt gydymffurfio â diwylliant ac ethos iaith Gymraeg y Coleg. 

    Mae staff yn cael mynediad i feddalwedd cyfrifiadurol i wirio sillafu a gramadeg Cymraeg. 

    Mae staff yn cael mynediad i’r Safle Google Cymraeg lle mae copïau o’r hysbysiadau cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ar gael ynghyd ag adnoddau i hyrwyddo a chefnogi cydymffurfiad.

  • Mae’r prosesau ymgeisio a chofrestru ar gael yn Gymraeg a Saesneg ynghyd ag amrywiol wasanaethau cefnogi dysgwyr. Mae Swyddogion y Gymraeg yn gweithio gyda dysgwyr gan eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder wrth ddefnyddio’r iaith gan hyrwyddo manteision dwyieithrwydd wrth gynllunio eu gyrfaoedd.

  • Bydd y Coleg yn cyflwyno adroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg a fydd yn cynnwys gwybodaeth am sgiliau Cymraeg gweithwyr, cyrsiau hyfforddi, recriwtio a chwynion a dderbyniwyd mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg.

  • Bydd y Coleg yn darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cydymffurfio â holl Safonau’r Gymraeg a restrir yn ein hysbysiadau cydymffurfio, y maent ar gael i’w gweld ar ein gwefannau. Os ydych chi’n teimlo nad ydym wedi llwyddo, mae croeso i chi gysylltu â ni fel y gallwn wella ein gwasanaeth Cymraeg yn barhaus.

Cysylltwch â
cymraeg@colegsirgar.ac.uk