Skip page header and navigation

Twf Swyddi Cymru + yn rhoi carreg sarn i Theo Bowler ar y ffordd i ddod yn brentis gyda chwmni SW Carpentry Service

Mae JGW+ (datblygu) yn gwneud y llwybr i fy ngyrfa yn syml. Cewch eich helpu drwy bopeth a rhoddir yr holl gefnogaeth sydd ei hangen i chi i gyrraedd lle rydych chi am fod. Mae’r gefnogaeth ychwanegol hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi.

Mae cael cyfle i wneud fy Nghymhwyster Sgiliau Hanfodol (ESQ) er mwyn i mi allu gwneud prentisiaeth yn wych. Yn ogystal rwy’n cael llawr o gyfleoedd i uwchsgilio, fel cyrsiau iechyd a diogelwch a cherdyn CSCS.

Byddwn i’n eich cynghori i gymryd y cyfle i gofrestru ar gyfer JGW+ oherwydd  bod cymaint o opsiynau ar gyfer dilyniant ac mae’r arweiniad rydych yn ei dderbyn ar y rhaglen yn ardderchog. 

Byddwn i’n argymell y rhaglen hon 100%.

Theo reaching into a cupboard smiling at the camera

Rhai o'n Hastudiaethau Achos JGW+

  • Mae Aden James wedi bod yn gweithio gyda’r adran ystadau yn Ysbyty Tywysog Philip ac mae wedi bod yn gwneud cynnydd da iawn. 

    Ei leoliad cyntaf oedd gyda’r adran storau ac mae e bellach wedi’i leoli gyda thîm y porteriaid.


    Mae JGW+ (ymgysylltu) wedi fy helpu’n fawr o ran meithrin fy hyder. 

    Pan ddechreuais i, doeddwn i ddim yn hyderus o gwbl, yn enwedig yn fy lleoliad gwaith, ond nawr rwy’n teimlo’n hyderus iawn ac rwy’n cael llawer o anogaeth gan fy lleoliad gwaith. 

    Rwyf bellach nid yn unig yn gallu cyfathrebu â staff eraill ond gyda’r cleifion hefyd pan wyf yn gwneud fy nyletswyddau fel porter.

    Gallaf ddweud bod JGW+ wedi fy helpu i fod yn well o ran cadw amser, cyfathrebu, sgiliau gwasanaeth cwsmer yn ogystal â gwella fy hyder.

    Oni bai am JGW+ wyddwn i ddim ble byddwn i ar y pwynt hwn.  Mae wedi rhoi’r cyfle i mi roi cynnig ar brofiad gwaith ac mewn swydd feddyliais i erioed y byddwn i’n cael cyfle i wneud.

    Bydd JGW+ yn eich gwneud yn well person. Bydd yn dysgu pethau newydd i chi bob dydd ac yn rhoi’r cyfle posibl i chi gael swydd allan ohono.

    Dyma beth mae cydweithwyr Aden yn dweud:

    “Mae Aden wedi bod yn gaffaeliad i ni yma yn yr adran storau ac mae wedi ffitio i mewn yn dda iawn. Bydd yn gwneud ychwanegiad ardderchog i’r tîm os digwydd bod swydd yn dod ar gael. Bydden ni heb os yn ei groesawu fel rhan o’n tîm ni yma. Mae Aden wedi dangos ei fod yn brydlon ac yn ddibynadwy ac yn barod i helpu bob amser.” Dan Evans, Prif Borter.

    “Mae Aden wedi bod yn gweithio gyda fi yn yr adran pelydr-x ers pythefnos ac mae wedi gwneud cynnydd aruthrol. Bydd cynyddu ei lefelau hyder yn fanteisiol iddo ond mae ganddo ffordd hawddgar gyda chleifion. Rwy’n meddwl, ambell i wythnos arall ac fe fydd mewn gwell sefyllfa o lawer i sicrhau swydd gyda Hywel Dda.” Peter Skelton, Porter Pelydr-x.

    “Cyrhaeddodd Aden ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf gyda ni ar amser ac yn edrych yn smart, mae’n gyfeillgar a chwrtais iawn. Does gen i ddim amheuon y bydd Aden yn aelod ardderchog a gwerth chweil o’r tîm dros yr ychydig fisoedd nesaf.” Susan Davies, Rheolwr Gwasanaethau Gwesty

  • Lacey in a red apron standing by her company sign

    Mae Lacey Curtis yn esbonio sut mae rhaglen JGW+ (datblygu) wedi cynyddu ei sgiliau cyflogadwyedd.


    Mae cael profiad gwaith mewn gweithle sydd y tu hwnt i’m cylch cysur wedi gwneud i mi ddod yn fwy hyderus ac rwyf wedi ennill sgiliau gwerthfawr fel gwasanaeth cwsmer a gweithio fel tîm.

    Gallaf ddweud bod y lleoliad gwaith wedi fy helpu’n fawr iawn gyda fy hyder, yn enwedig wrth siarad â phobl o bob oed.

    Byddwn i’n awgrymu ei fod wedi rhoi profiad real i mi a sgiliau byw pwysig, fyddwn i ddim yn eu datblygu’n llwyr yn y coleg yn llawn amser.

  • Harry in the woods

    Mae Harry Coppack yn esbonio sut y gwnaeth JGW+ (ymgysylltu) helpu ei hyder.


    Rwy’n teimlo fel bod y Rhaglen JGW+ wedi cefnogi fy sgiliau cymdeithasol ac wedi meithrin fy hyder gan fy mod wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar. Rwy’n teimlo fel pe bai hwn wedi meithrin fy hyder mewn amgylchedd gwaith. 

    Doeddwn i ddim yn teimlo bod mynychu’r coleg yn llawn amser y peth i fi, gan fod gwell gen i brofiad ymarferol na bod mewn ystafell ddosbarth. 

    Pan dorrais i fy nghoes y llynedd effeithiwyd ar fy iechyd meddwl ond mae fy hwyl wedi gwella gan fy mod bellach yn gweithio gyda thîm cyfeillgar braf ym mhlanhigfa Farmyard Nurseries gyda chefnogaeth Richard a’m cydweithwyr.

    Farmyard Nurseries yw fy lleoliad gwaith cyntaf ar ôl gadael coleg llawn amser. Mae’r lleoliad gwaith hwn wedi rhoi’r profiad i mi o weithio mewn tîm cefnogol sydd wedi fy helpu i ennill hyder ac ennill arweiniad ar gyfer fy nhasgau bob dydd, ac i fy mharatoi ar gyfer byd gwaith a dysgu am beth i’w ddisgwyl.

    Y peth gwych am y rhaglen hon yw’r ffaith ei bod yn werthfawr i unrhyw un ag amgylchiadau arbennig sydd angen cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol, ac i ddysgwyr nad ydynt o reidrwydd am fynd i addysg lawn amser ar adael yr ysgol. 

    Mae cymryd rhan mewn profiad gwaith yn hepgor y pwysau ychwanegol yna i fynd i’r ystafell ddosbarth. 

Tysteb JGW+ y GIG

“Mae Aden wedi bod yn gweithio gyda fi yn yr adran pelydr-x ers pythefnos ac mae wedi gwneud cynnydd aruthrol. Bydd cynyddu ei lefelau hyder yn fanteisiol iddo ond mae ganddo ffordd hawddgar gyda chleifion. Rwy’n meddwl, ambell i wythnos arall ac fe fydd mewn gwell sefyllfa o lawer i sicrhau swydd gyda Hywel Dda.” 

Peter Skelton, Porter Pelydr-x.

“Cyrhaeddodd Aden ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf gyda ni ar amser ac yn edrych yn smart, mae’n gyfeillgar a chwrtais iawn. Does gen i ddim amheuon y bydd Aden yn aelod ardderchog a gwerth chweil o’r tîm dros yr ychydig fisoedd nesaf.” 

Susan Davies, Rheolwr Gwasanaethau Gwestyer.

 

A hospital corridor with a bed nearby by the wall

Lleoliad gwaith gyda Dyfed Alarms wedi arwain at brentisiaeth gyda’r Grid Cenedlaethol

Gwion in a purple hoodie smiling at the camera

Mae JGW+ (datblygu) wedi helpu Gwion Davies i fagu ei hyder yn sylweddol ac ennill profiad gwaith ymarferol gwerthfawr mewn sector mae’n mwynhau’n fawr iawn. 

Rwyf wedi cael cefnogaeth mewn cyflogadwyedd, dysgu sut i gwblhau ceisiadau am swyddi a sut i greu CV.

Rwyf nawr yn gyffrous iawn am gychwyn prentisiaeth gyda’r Grid Cenedlaethol. 

Enillais i lawer o brofiad pan oeddwn i ar leoliad gyda Dyfed Alarms ac roedd y gefnogaeth a gefais gan y coleg yn hanfodol o ran fy helpu i symud ymlaen. 

Hefyd rwyf wedi cael y cyfle i gwblhau fy sgiliau allweddol sydd wedi fy ngalluogi i wneud cais ar gyfer y brentisiaeth, sy’n bwysig iawn i mi.

Rwyf wedi elwa’n fawr o’r amser treuliais i gyda fy ymgynghorydd hyfforddi yn mynd dros bethau fel sut i wneud cais am swydd a dysgu sut i greu CV. Roedd hyn yn hanfodol ac yn bwysig iawn i mi.

Byddwn i’n eich cynghori i wneud y mwyaf o’r cyfle ac ymgysylltu â’ch ymgynghorydd hyfforddi ar gyfer yr holl gefnogaeth sydd ar gael i chi. Mae’n gyfle gwych.

Fe wnaeth JGW+ gyfarparu Wictoria i ddechrau ei phrentisiaeth gyda Ra’ra Hair

Mae JGW+ (datblygu) wedi rhoi profiad ymarferol i Wictoria Misiak. 

Mae wedi fy helpu i wella fy sgiliau a hybu fy hyder a thrwy wneud y gwaith, rwyf wedi cael y cyfle i archwilio gyrfa mewn trin gwallt.

Mae’r lleoliad gwaith wedi agor drysau i mi a rhoi’r cyfle i mi ddechrau fy ngyrfa mewn trin gwallt. Rwy’n gyffrous ynghylch gorffen fy nghymhwyster lefel un ac yna symud ymlaen i brentisiaeth yn fy lleoliad cyfredol.

Byddwn i yn dweud bod JGW+ yn ffordd dda o gael profiad a gweld sut mae gyrfa mewn trin gwallt yn edrych neu unrhyw yrfa arall y gallech chi fod â diddordeb ynddi.

TEST